S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadi Gwyn Edwards yn ennill teitl Cân i Gymru 2017

11 Mawrth 2017

   Mae merch a fu’n breuddwydio am gystadlu yng nghystadleuaeth Gan i Gymru ers yr oedd hi’n 12 oed wedi ennill y teitl - bum mlynedd yn unig yn ddiweddarach.

Y gân Rhydd gan Cadi Gwyn Edwards, 17, o Lanrwst enillodd dlws Cân i Gymru 2017 a'r wobr o £5,000.

Yn ail ac yn ennill gwobr o £2,000 roedd y gân Pryder gan Sophie Jayne Marsh a’r gân a ddaeth yn drydydd ac yn ennill gwobr o £1,000 oedd Fy Nghariad olaf i gan Richard Vaughan ac Andy Park.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth nos Sadwrn 11 Mawrth yn Stiwdio BBC Cymru Wales, Llandaf; a'i darlledu'n fyw ar S4C. Yn cyflwyno roedd y gantores Elin Fflur a'r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris.

Daw Cadi’n wreiddiol o Lanrwst ac mae ar hyn o bryd yn gwneud Lefel AS yn Ysgol Dyffryn Conwy. Ysgrifennodd y gân ar ei ffôn ar ôl iddi ymweld ag Ynys Llanddwyn. Disgrifia’r gân fel ‘unigrwydd person sydd eisiau torri’n rhydd oherwydd caethiwed’.

Meddai Cadi, 17, a berfformiodd y gân ar y noson, “Dwi wedi bod yn breuddwydio am gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru er yr oeddwn i‘n 12 oed, ond roedd yn rhaid imi aros tan oeddwn yn 17 oed i gystadlu a gwireddu’r freuddwyd honno.”

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C; “Mae wedi bod yn noson wych i gerddoriaeth wreiddiol, Gymraeg. Llongyfarchiadau i bob un o’r cyfansoddwyr a cherddorion fu’n rhan o noson Cân i Gymru 2017, ac yn enwedig i’r enillydd Cadi Gwyn Edwards.

Penderfynwyd y dylai 10 cân yn lle’r wyth arferol gael cyfle i gystadlu am y tlws y tro hwn oherwydd roedd y safon y gystadleuaeth mor uchel. Y ddeg cân oedd: Ti yw fy Lloeren gan Hywel Griffiths; Curiad Coll gan Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams; Cân yr Adar gan Llinos Emanuel; Eleri gan Betsan Haf Evans; Fy Nghariad Olaf i gan Richard Vaughan ac Andy Park; Rhydd gan Cadi Gwyn Edwards; Gelyn y Bobl gan Richard Marks; Seren gan Mari Lovgreen a Geraint Lovgreen; Pryder gan Sophie Jayne Marsh a Rhywun Cystal â Ti gan Eady Crawford.

Ar ôl i bob cân gael eu perfformio, rhoddwyd y dasg o ddewis yr enillydd yn nwylo’r gwylwyr drwy’r bleidlais ffôn.

Gallwch wrando ar bob un o’r perfformiadau eto ar wefan S4C – s4c.cymru/canigymru, neu wylio’r rhaglen gyfan ar-lein, ar alw ar s4c.cymru.

 

 G

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?