S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datganiad S4C yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, Theresa May

21 Mawrth 2017

 Datganiad gan S4C:

“Mae S4C yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau dyfodol S4C, a’r pecyn o fesurau a gyhoeddwyd heddiw, gan gynnwys benthyciad ariannol ar gyfer S4C.

“Bydd y benthyciad o £10m, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod gan S4C i DCMS, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dau bwrpas penodol: i gyfrannu tuag at gostau offer technegol ar gyfer cynlluniau arfaethedig S4C i rannu gwasanaethau darlledu gyda BBC Cymru yn eu pencadlys newydd yng Nghaerdydd yn 2019 ac yn ogystal i ddarparu ariannu dros-dro er mwyn caniatáu taliad rhent ymlaen llaw S4C i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ar gyfer les yr Egin yn 2018 hyd nes y bydd pencadlys presennol S4C yn Llanisien wedi ei werthu. Bydd gweddill y benthyciad yn cael ei ad-dalu o arbedion fydd yn deillio o’r ddau gynllun.”

diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?