S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Loteri Cymru yn cyhoeddi'r rhifau lwcus ar S4C

31 Mawrth 2017

Bydd rhifau lwcus loteri newydd i Gymru yn cael eu cyhoeddi yn gyntaf ar S4C, yn rhan o bartneriaeth ddarlledu gyda Loteri Cymru.

Datgelwyd manylion Loteri Cymru, loteri cymdeithas Cymru gyfan newydd sbon heddiw, ar ddydd Gwener 31 Mawrth 2017. S4C yw partneriaid darlledu ecsgliwsif Loteri Cymru, sydd â’r hawl unigryw i gyhoeddi'r rhifau lwcus, ac i ddangos rhaglenni sy’n ymwneud â’r achosion da.

Bydd y rhifau'n cael eu cyhoeddi ar S4C, ar deledu ac ar-lein, bob nos Wener am 8.00, gan ddechrau ar 28 Ebrill, 2017. Drwy'r bartneriaeth hon mae S4C yn gallu cynnig cynnwys newydd sy'n apelio at gymunedau ac yn denu cynulleidfa newydd at y sianel.

Mae gan Loteri Cymru jacpot sicr wythnosol o £25,000 - yr uchafswm a ganiateir o dan reolau loteri cymdeithas - gyda’r enillion yn mynd i achosion cymunedol ar lawr gwlad ledled Cymru. Gwahoddir elusennau lleol o bob cwr o Gymru i wneud cais am gymorth i’w prosiectau cymunedol sydd â buddiannau addysgol, cymdeithasol a diwylliannol.

Meddai Carol Bell, Cadeirydd SDML, braich fasnachol S4C: “Rydyn ni wrth ein bodd i gefnogi loteri gwirioneddol Gymreig a fydd yn creu cyfleoedd am raglenni heb eu hail, yn ogystal â darparu arian mawr ei angen i Gymru.”

Drwy'r cytundeb darlledu, mae SDML, cangen fasnachol S4C, wedi rhoi arian ar gyfer datblygu fformat ac er mwyn sicrhau'r hawliau darlledu ecsgliwsif i S4C gyhoeddi'r rhifau lwcus yn gyntaf, a'r hawl i ddangos rhaglenni am yr elusennau.

Bydd rhagor o wybodaeth am Loteri Cymru ar gael ar www.loteri.cymru

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?