S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillwyr Côr Cymru yn cael cynnig mynd i Eurovision

05 Ebrill 2017

Bydd enillwyr Côr Cymru 2017 eleni yn cael cynnig mynd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017.

Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau darlledu a bydd y gystadleuaeth newydd danlli i'w gweld

yn fyw ar y sianel ar 22 Orffennaf eleni.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i Eurovision gynnig y math yma o gystadleuaeth a bydd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf erioed yn Latfia.

Bydd y noson yn cael ei harwain gan y cyfansoddwr a'r arweinydd corawl byd-enwog Eric Whitacre ac ymysg y beirniaid bydd y cyfansoddwr corawl uchel ei barch John Rutter a'r soprano Elina Garanca.

Bydd enillwyr Côr Cymru yno ymysg rhai o gorau mwyaf disglair Ewrop ac yn ymddangos ochr

yn ochr gyda'r goreuon o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, Yr Almaen, Hwngari,

Slofenia a Latfia.

Meddai Hefin Owen, Uwch gynhyrchydd Côr Cymru, "Dyma ddatblygiad pwysig iawn o ran cystadleuaeth Côr Cymru ac yn gyfle gwych i'r côr buddugol a Chymru fedru serennu ar lwyfan Ewropeaidd. Mae'n gyfle gwych hefyd i gynulleidfa S4C fwynhau gwledd o ganu gan rai o gorau mwyaf safonol Ewrop."

Y corau sydd yn ffeinal Côr Cymru 2017 eleni ac yn mynd benben â'i gilydd nos Sul, 9 Ebrill am gyfle i fynd i gystadleuaeth yr Eurovision ydy Côr Ieuenctid Môn o gategori'r plant; Côr Merched Sir Gâr o gategori'r corau ieuenctid; Côr Meibion Machynlleth o gategori'r corau meibion; Ysgol Gerdd Ceredigion fydd yn cynrychioli'r corau merched a Côrdydd y corau cymysg.

Mae Ffeinal Côr Cymru 2017, a gynhelir yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn fyw ar S4C.

Bydd hyd at 50 o aelodau côr buddugol Côr Cymru 2017 yn cael gwahoddiad i fynd i gystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017 a gynhelir yn Arena Riga yn Latfia.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant, S4C, "Mae S4C yn hynod o falch o ddarlledu'r gystadleuaeth Eurovision yma ac o'r ffaith y bydd cynrychiolaeth o Gymru yno. Mae'n gam naturiol yn esblygiad y gyfres boblogaidd Côr Cymru ac yn gyfle gwych i arddangos ein talentau corawl ar lwyfan Ewropeaidd."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?