S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C: Gwthio’r Ffiniau – Gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf

07 Ebrill 2017

 Cyn cychwyn adolygiad Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o Gylch Gorchwyl, Cyllidebu a Llywodraethiant S4C, fe gyhoeddodd y sianel heddiw ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Mae S4C: Gwthio’r Ffiniau yn amlinellu sut mae’r sianel deledu yn credu y bydd rhaid newid ei chylch gorchwyl er mwyn ei chaniatáu i ddod yn ddarparwr cynnwys digidol modern yn yr iaith Gymraeg.

Mae’r darlledwr wedi amlinellu 4 prif faes ar gyfer ei weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol:

1. Darparu cynnwys ar bob llwyfan: Sicrhau y gall y gynulleidfa ddefnyddio cynnwys S4C pryd, ble a sut bynnag y dymunant.

2. Creu’r Cynnwys Cywir: Ei wneud yn fwy perthnasol, cystadleuol ac amrywiol.

3. Gwerth Ehangach fel Gwasanaeth Cyhoeddus: Sicrhau buddion economaidd, ieithyddol ac addysgol o’n gwaith.

4. Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth: Gwella ein galluoedd a’n henw da masnachol.

Wrth lansio S4C: Gwthio’r Ffiniau, dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: "Rydym am esblygu o fod yn ddarlledwr traddodiadol i fod yn ddarparwr cynnwys ar draws y cyfryngau ym myd cysylltiedig yr unfed ganrif ar hugain."

Mae’r ddogfen weledigaeth yn egluro sut bydd rhaid i S4C ddod yn ddarparwr cynnwys ar bob llwyfan boblogaidd - darlledu, teledu clyfar, cyfryngau cymdeithasol, safleoedd fideo ffurf fer, ffurf hir ar-lein ac mae'n rhaid gwneud hyn, gan ar yr un pryd, barhau i fuddsoddi yn ei bresenoldeb ar lwyfannau teledu. Mae’r ddogfen hefyd yn amlinellu'r uchelgais i fuddsoddi mwy mewn prosiectau cynhyrchu mawr, denu cynulleidfaoedd newydd i’r sianel deledu yn ogystal â chomisiynu cynnwys ar-lein cysylltiedig.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, mae S4C angen tri pheth:

a. Cylch gorchwyl newydd i ddarparu Cynnwys Gwasanaeth Cyhoeddus Cymraeg ar deledu ac ar lwyfannau digidol i gynulleidfaoedd yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

b. Cyllid digonol bob blwyddyn i gyfleu ac i gynnal y math a lefel o wasanaetha ac i gynnal cydraddoldeb gyda sianeli eraill mewn byd digidol aml-lwyfan.

c. Proses gwrthrychol a thryloyw er mwyn penderfynu beth olygir wrth arian digonol ar gyfer S4C, wedi ei seilio ar gylch gorchwyl newydd."

Bydd yr adolygiad annibynnol o S4C yn gyfle i sicrhau dyfodol S4C am ddegawdau i ddod fel bod y sianel yn gallu: Ateb anghenion a dyheadau cynulleidfa heddiw ac yfory, hawlio lle i’r iaith Gymraeg yn y byd digidol a chreu effaith economaidd gwell ar economi Cymru a Phrydain.

Mae dogfen S4C yn amlinellu gwasanaeth cyfryngau Cymraeg newydd aml-lwyfan sydd yn ymwneud ac yn esblygu’n barhaus yn nhermau’r cynnwys sydd wedi ei gomisiynu a sut mae pobl yn cael mynediad at y cynnwys hwnnw.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Fe gafodd S4C ei sefydlu gan Ddeddf Darlledu 1980.

Mae’r sianel yn darlledu dros 1,850 awr o raglenni gwreiddiol bob blwyddyn ar gost o £34k/awr a chyfanswm o dros 6,700 awr y flwyddyn ar gost gyfartalog o £11k/awr.

Mae gweledigaeth deng mlynedd S4C yn rhan hanfodol o’i chyflwyniad i arolwg annibynnol Llywodraeth y DU.

Bydd yr arolwg yn edrych ar ariannu, cylch gorchwyl a threfniadau atebolrwydd S4C.

 

Mae S4C: Gwthio’r Ffiniau ar gael mewn clawr caled neu PDF (cysylltwch â sioned.williams@s4c.cymru). Mae fersiwn digidol ar gael i’w wylio ar s4c.cymru/gwthiorffiniau

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?