S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilmio'n dechrau cyn hir ar ddrama newydd ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru

13 Ebrill 2017

 Un Bore Mercher/Keeping Faith yw'r cyd-gomisiwn drama diweddaraf rhwng S4C a BBC Cymru, gydag Eve Myles yn chwarae'r brif rôl yn y ddrama ddirgelwch am berthynas rhwng gwr a gwraig, wedi ei gosod yn Sir Gaerfyrddin.

Mi fydd gwaith cynhyrchu'r gyfres wyth rhan yn dechrau o fewn y mis ac mi fydd Un Bore Mercher i'w gweld ar y sgrin yn gyntaf ar S4C yn yr hydref. Bydd y fersiwn Saesneg, o'r enw Keeping Faith, ar BBC One Wales yn gynnar yn 2018.

Mi fydd y ddrama'n cael ei ffilmio gefn wrth gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae'r stori'n adrodd hanes Faith (Eve Myles) cyfreithiwr, gwraig a mam, a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr. Daw i ddarganfod fod y dref hardd, sy'n hafan delfrydol iddi hi a'i theulu, hefyd yn gwarchod cyfrinachau tywyll sy'n fygythiad i'w dyfodol. Ar drywydd y gwir, mae Faith yn newid byd. Mae hi'n camu o'i bodolaeth gyfforddus, fel mam a gwraig ddefosiynol, ac yn troi'n dditectif di-gyfaddawd – yn brwydro er mwyn ei theulu ac i ddarganfod y gwir. Am y tro cyntaf, mae hi'n fodlon wynebu perygl a chymryd risg, ac yn dod o hyd i nerth sy'n ei sbarduno.

Mae’r ddrama'n waith ar y cyd rhwng yr awduron Matthew Hall (Kavanagh QC) ac Anwen Huws (Gwaith Cartref, Pobol y Cwm). Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio ar leoliad ym Mro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin ac yn nalgylch tref Talacharn, a'r golygfeydd stiwdio yn digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ymhlith y cast mae actorion poblogaidd yn cynnwys Matthew Gravelle (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Broadchurch), Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, Stella, National Treasure) ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland).

Mae Un Bore Mercher/Keeping Faith yn gynhyrchiad gan Vox Pictures, gyda Pip Broughton (Under Milk Wood a The Green Hollow) yn cyfarwyddo ac yn cyd-gynhyrchu gyda Nora Ostler (Y Gwyll/Hinterland a Gwaith Cartref). Gwawr Martha Lloyd yw'r Uwch Gynhyrchydd ar ran S4C, Maggie Russell ar gyfer BBC Cymru, ac Adrian Bate ar ran Vox Pictures.

Wedi'i ariannu gan S4C, BBC Cymru a thrwy Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, Llywodraeth Cymru, gyda chyngor gan Pinewood Pictures, bydd yr holl olygfeydd yn cael eu saethu ar leoliadau o amgylch Cymru gyda'r gwaith ôl-gynhyrchu hefyd yn digwydd yma yng Nghymru. Bu Sgrin Cymru, rhan o sector diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru, yn gymorth wrth ddod o hyd i leoliadau, gan helpu i wneud y gorau o'r manteision economaidd i Gymru.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C; "Ry' ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddangos Un Bore Mercher yn gyntaf ar S4C yn yr hydref. Gyda chast llawn sêr a stori rymus, plot gafaelgar a lleoliad fydd yn ein swyno, ry' ni'n gobeithio y bydd y gynulleidfa yn dod i garu byd a chymeriadau Un Bore Mercher cymaint ag yr ydym ni yn S4C wedi mwynhau eu cwmni wrth ddatblygu'r gyfres. Mae'r stori yn ein tywys ar daith llawn cyffro ac emosiwn fydd yn cyffwrdd â'r galon ac hefyd, ar adegau, yn gynnes ac yn gwneud i ni wenu."

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru; "Mae'n newyddion gwych ein bod yn cael drama wreiddiol wedi ei chreu yma yng Nghymru, sy'n cael ei chynhyrchu gan y dalent orau sydd â'u gyrfaoedd yn eu hanterth. Alla i ddim aros i weld beth fydd y tîm yn llwyddo i'w greu."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?