S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Straeon Iris 2: S4C yn cefnogi ail gynllun ffilmiau LGBT yn yr iaith Gymraeg

25 Awst 2017

• Cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg yn dychwelyd

• S4C a Ffilm Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwobr Iris

• Dangosiad cyntaf ffilm fer yn agoriad gŵyl ffilm 2018 yng Nghaerdydd

Mae trefnwyr Gwobr Iris yn lansio Straeon Iris 2, sef cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg gyda chefnogaeth S4C a Ffilm Cymru drwy BFI NETWORK.

Nod y cynllun yw annog rhagor o straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar gyfer y sgrin, o Gymru, am Gymru ac yn Gymraeg. Mae'r cynllun ar agor i awduron unigol a thimau o awduron a chyfarwyddwyr, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu hyd at chwe ffilm fer cyn dewis un i gael ei chynhyrchu.

"Rydyn ni wedi bod yn rhannu ein straeon gyda chynulleidfaoedd mor eang â phosibl ers bron i ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni wedi gweld straeon anhygoel am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws mewn amrywiaeth o ieithoedd ac o bob cwr o'r byd. Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n credu ei bod hi'n briodol i Iris weithio ychydig yn nes at adref a chefnogi straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws sy'n cael eu hadrodd yn Gymraeg," meddai Cadeirydd yr Ŵyl, Andrew Pierce.

"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth unwaith eto gydag S4C a Ffilm Cymru sydd, rhyngddyn nhw, â hanes rhagorol o gefnogi doniau Cymru. Drwy'r bartneriaeth yma, byddwn ni'n gweld straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws o Gymru ac yn Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfa ryngwladol wrth i ni fanteisio ar ein rhwydwaith fyd-eang o chwaer-ŵyliau mewn ugain o wledydd," ychwanegodd.

Meddai Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C: "Mae Straeon Iris yn brosiect gwirioneddol gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio mewn partneriaeth am yr ail dro gyda Gŵyl Gwobr Iris a Ffilm Cymru. Yn ogystal â bod yn hyrwyddwr dramâu Cymraeg newydd, mae S4C wedi ymrwymo i ddangos amrywiaeth ar y sgrin. Mae Straeon Iris yn addo bod yn gyfle cyffrous i drawstoriad o leisiau gael eu clywed, ac yn ffordd o fynd â'r Gymraeg i bob cwr o'r byd."

Ychwanegodd Tracy Spottiswoode, Rheolwr BFI NETWORK yn Ffilm Cymru: "Mae Straeon Iris yn ychwanegiad pwysig i'n hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth, ac yn adlewyrchu amrywiaeth eang o leisiau a straeon o Gymru. Mae'r cyfle cyffrous yma yn dilyn ymlaen o'n cynllun ysgrifennu sgriptiau Cymraeg, y Labordy, a'r cynllun ffilmiau byrion presennol, Bannau, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein gwaith gyda Gŵyl Gwobr Iris ac yn falch o fod wedi'i chefnogi ers iddi ddechrau!"

Bydd y ffilm derfynol yn cael ei harddangos am y tro cyntaf yn Nghaerdydd yn ystod Gŵyl Gwobr Iris ym mis Hydref 2018. Ar ragor o wybodaeth am yr ŵyl ewch i www.irisprize.org

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?