S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cofio Aberfan, stori am fabwysiadu a ffilm Y Llyfrgell ymhlith 26 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C

01 Medi 2017

Mae comisiwn arbennig Cantata Memoria, er cof am Aberfan, ymhlith rhestr swmpus o enwebiadau i gynyrchiadau S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru 2017.

Cyhoeddwyd y rhestr heddiw, ar ddydd Gwener 1 Medi 2017 gyda chyfanswm o 26 o enwebiadau i gynnwys S4C.

Ar frig yr enwebiadau eleni i S4C mae Y Llyfrgell (Ffilm Ffolyn) sydd wedi derbyn pedwar enwebiad gan gynnwys Cyfarwyddwr: Ffuglen (Euros Lyn) Actor (Dyfan Dwyfor) Awdur (Fflur Dafydd) a Dylunio Gwisgoedd (Dawn Thomas).

Mae’r rhaglen ddirdynnol Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu (Antena) wedi derbyn tri enwebiad am Raglen Ddogfen Unigol, Cyflwynydd (Iestyn Garlick) a Chyfarwyddwr Ffeithiol (Arwyn Evans).

Yn y categori Rhaglen Adloniant mae enwebiad i Cantata Memoria (Rondo Media), sef y perfformiad cyntaf o waith corawl unigryw Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood oedd yn deyrnged i nerth ac urddas cymuned Aberfan, 50 mlynedd ers y trychineb. Roedd y comisiwn gan S4C yn ddigwyddiad nodweddiadol yn amserlen y sianel ym 2016, ac yn gonglfaen i'r cofiannau am y trychineb.

Hanes dirdynnol am drychineb arall a gafodd effaith hirdymor ar ein cymdeithas oedd testun y rhaglen Hillsborough: Yr Hunllef Hir (Rondo Media) wrth i gefnogwyr pêl-droed o Gymru gofio'r diwrnod pan gafodd 96 o gefnogwyr Lerpwl eu lladd ar derasau stadiwm Hillsborough yn Sheffield. Mae'r rhaglen emosiynol hon wedi ei henwebu yn y categori Rhaglen Ddogfen Unigol.

Wedi ei henwebu am wobr actores yw Carys Eleri, am ei rôl fel y ficer Myfanwy yn y gyfres Parch (Boom Cymru TV) a Mali Jones am ei rôl fel Nia yn 35 Diwrnod (Boom Cymru TV).

Yn y categori Adloniant, mae’r gyfres sy’n hel clecs yn siopau trin gwallt Cymru, Y Salon (Boom Cymru) wedi ei henwebu ac mae'r ffilm gerdd Nadoligaidd Albi a Noa yn Achub yr Iwnifys (Boom Cymru) wedi ei henwebu am Ffilm Nodwedd/Deledu.

Ymhlith y nifer lu o enwebiadau eraill mae sawl rhaglen blant yn cynnwys Deian a Loli (Cwmni Da), Llond Ceg (Greenbay) a Teulu Ni (Cwmni Da), oll yn gobeithio camu i’r llwyfan i dderbyn gwobr.

Mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C yn llongyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad;

Meddai Amanda Rees; “Mae hi wedi bod yn flwyddyn o gynhyrchu cynnwys rhagorol ac fe hoffwn longyfarch y cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn ogystal â ITV Cymru a BBC Cymru am ei holl enwebiadau. Mae’r llwyddiant yn destament i’r cynnwys amrywiol ac o safon uchel sy’n cael ei gynhyrchu. Dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo.”

Y rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru i gomisiynau S4C yw:

Actor: Dyfan Dwyfor, Dan yn Y Llyfrgell (Ffilm Ffolyn)

Actores: Carys Eleri, Myfanwy yn Parch (Boom Cymru TV); Mali Jones, Nia yn 35 Diwrnod (Boom Cymru TV)

Rhaglen Blant: Deian a Loli (Cwmni Da); Llond Ceg (Greenbay); Teulu Ni (Cwmni Da)

Dylunio Gwisgoedd: Dawn Thomas-Mondo ar gyfer Y Llyfrgell (Ffilm Ffolyn)

Cyfarwyddwr: Ffeithiol: Arwyn Evans ar gyfer Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu (Antena)

Cyfarwyddwr: Ffuglen: Euros Lyn ar gyfer Y Llyfrgell (Ffilm Ffolyn)

Rhaglen Adloniant: Cantata Memoria (Rondo Media); Taith Bryn Terfel: Gwlad y Gân (Boom Cymru); Y Salon (Boom Cymru)

Cyfres Ffeithiol: #swn10 (Greenbay); Arfordir Cymru: Bae Ceredigion (Rondo Media)

Ffilm Nodwedd/Deledu: Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs (Boom Cymru)

Darllediad Byw: Ffeinal Band Cymru 2016 (Rondo Media)

Newyddion a Materion Cyfoes: Cysgod Chernobyl (ITV Cymru)

Cerddoriaeth Wreiddiol: Benjamin Talbott and Victoria Ashfield – Galesa (Joio); John Hardy Music – Y Gwyll (Fiction Factory)

Ffotograffiaeth a Goleuo: Richard Stoddard – Yr Ymadawiad (Severn Screen)

Cyflwynydd: Iestyn Garlick – Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu (Antena)

Rhaglen Ddogfen Unigol: Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu (Antena); Hillsborough: Yr Hunllef Hir (Rondo Media)

Drama Deledu: 35 Diwrnod (Boom Cymru); Parch (Boom Cymru)

Awdur: Fflur Dafydd – Y Llyfrgell (Ffilm Ffolyn)

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?