S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffanffêr gan y Barry Horns i groesawu cefnogwyr o'r gogledd

02 Medi 2017

Cafodd cefnogwyr pêl-droed y gogledd groeso cynnes i orsaf Caerdydd Canolog, gyda pherfformiad gan fand The Barry Horns.

Wrth i'r cefnogwyr lifo oddi ar y trên ar ddiwedd ei thaith o Gaergybi, roedd parti yn barod amdanyn nhw yng nghwmni band cefnogwyr pêl-droed Cymru i gynhesu'r gwaed cyn gêm Cymru v Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Fel darlledwyr balch pob gêm Cymru yn Rowndiau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, bu S4C yn trefnu gyda'r Barry Horns i roi syrpreis i'r gogleddwyr gyda chymorth Trenau Arriva Cymru.

Roedd y syrpreis yn rhan o'r cynnwrf cyn cic gynta'r gêm dyngedfennol yn erbyn Awstria, sydd ar gael yn rhad ac am ddim i gefnogwyr ar draws y DU ar S4C, meddai Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C;

"Does dim llawer sy'n curo gêm ryngwladol gartref, ac roedden ni eisiau ychwanegu rhywbeth arbennig at ddiwrnod y cefnogwyr ar ddiwedd eu taith. Mae'r Barry Horns yn gallu cychwyn parti yn unrhyw le, hyd yn oed mewn gorsaf drên a 'da ni'n gobeithio fod y syrpreis wedi codi ysbryd y cefnogwyr yn barod am y gêm. Gobeithio hefyd y bydd y canlyniad yn rhoi rheswm i ddathlu yr holl ffordd adref i Gaergybi heno."

Yn enwog am eu caneuon bywiog, sy'n arwain y canu yn Y Wal Goch, meddai The Barry Horns; "Roedd yr Horns wrth eu bodd yn croesawu'r trên o'r gogledd i Gaerdydd. Nawr, ymlaen at yr orsaf nesa' – a chasglu 3 pwynt!"

Dyma'r tro cyntaf i Trenau Arriva Cymru drefnu trên penodol er mwyn cludo cefnogwyr pêl-droed o'r gogledd i'r gêm, ac adref wedyn. Fe'i trefnwyd yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru.

Meddai Lewis Brencher, Pennaeth Cyfathrebu Trenau Arriva Cymru; "Ry ni wrth ein bodd i allu trefnu trên arbennig i ddod â chefnogwyr o'r gogledd i Gaerdydd ar gyfer y gêm. Roedd yr awyrgylch ar y trên yn wych a phawb mewn hwyliau da iawn, ac roedd cael ein croesawu gan y Barry Horns yn goron ar y cyfan. Diolch yn fawr i'r band ac i S4C am drefnu. Cymru am byth!"

Diwedd

 

Nodiadau i olygyddion:

Mae holl gemau Cymru yn Rowndiau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 ar gael yn fyw ar S4C, yn cynnwys Cymru v Awstria nos Sadwrn 2 Medi am 7.15, a'r gêm oddi cartref yn erbyn Moldofa ar nos Fawrth 5 Medi 7.15.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru: Freeview 104, Sky 104, Freesat 120, Virgin 166.

 Ac ar draws y DU ar Sky 134; Freesat 120, Virgin 166.

Hefyd ar-lein yn fyw ac ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer, YouView a llwyfannau eraill.

Nid dyma'r tro cyntaf i S4C a'r Barry Horns gyd-weithio i ddathlu pêl-droed yng Nghymru. Er mwyn nodi dechrau tymor Uwch Gynghrair Cymru, fe wnaeth y band greu fersiwn newydd o'u cân 'This is Wales' a ryddhawyd yn ystod Ewro 2016. Y tro hwn, yn lle rhestru trefi a phentrefi, roedd y gân yn enwi'r 12 tîm yn yr Uwch Gynghrair mewn fideo a gafodd ei ddangos ar deledu ac ar gyfryngau cymdeithasol S4C.

Mwy o wybodaeth am y trên arbennig i gefnogwyr Cymru: https://arrivatrainswales-newsroom.prgloo.com/news/all-aboard-the-football-special-north-wales-fans-train-confirmed-for-wales-world-cup-qualifiers

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?