S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gweddarllediad o gêm Uwch Gynghrair Cymru ganol wythnos yn lansio gwasanaeth newydd

06 Medi 2017

Bydd S4C yn darlledu nifer o gemau Uwch Gynghrair Cymru JD yn fyw, dim ond ar-lein y tymor hwn, yn ogystal â'r gemau teledu byw rheolaidd ar nosweithiau Sadwrn.

A bydd y gwasanaeth, fydd yn fyw ar-lein ar s4c.cymru ac ar dudalen Facebook Live Sgorio, yn cychwyn yfory - dydd Iau, 7 Medi, 7.45pm - pan fydd Sgorio, yn gweddarlledu'r gêm gynghrair Llandudno v Prestatyn, o Stadiwm Giant Hospitailty.

Bydd y gweddarllediad, a fydd ar gael i'w wylio ledled y DU, yn dangos y gêm yn unig. Bydd sylwebaeth y gweddarlledadau yn y Gymraeg.

"Mae'r gweddarllediadau yn ychwanegiad cyffrous i'r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig o gemau Uwch Gynghrair Cymru JD," meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C.

"Mae galw cynyddol am weddarllediadau o chwaraeon ac mae'r gwasanaeth yn golygu y gall S4C ddangos mwy fyth o gemau Uwch Gynghrair Cymru JD, yn enwedig gemau canol wythnos."

Mae S4C yn darlledu nifer gynyddol o ddigwyddiadau chwaraeon byw ar s4c.cymru ac S4C Facebook Live, gan gynnwys gemau rygbi ar bob lefel, seiclo a thriathlon, yn ogystal â phêl-droed.

Ynghyd â dangos gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru, mae S4C yn darlledu gemau rhyngwladol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn fyw.

Mae'r ddwy gêm ddiweddar yn erbyn Awstria a Moldofa wed profi'n boblogaidd, a bydd S4C yn darlledu'r ddwy gêm dyngedfennol sy'n weddill yng Ngrŵp D yn fyw fis nesaf, yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon.

Sgorio yw rhaglen chwaraeon hynaf S4C a Rondo Media yw'r cynhyrchwyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?