S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dod o hyd i gi mwyaf arwrol Cymru!

01 Tachwedd 2017

Un o straeon mwyaf adnabyddus Cymru yw hanes Gelert y ci ffyddlon ac fel rhan o dymor Chwedlau ym mis Tachwedd, mae S4C yn chwilio am gi dewraf Cymru.

Mae'r sianel yn chwilio am straeon am gŵn dewr, arwrol a ffyddlon yn rhan o gystadleuaeth ar y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, Heno. A'r wobr i'r dewraf yw gwerth blwyddyn o fwyd ci gan noddwyr y gystadleuaeth, cwmni Pero.

Yn ystod y mis, bydd Heno yn dathlu campau eithriadol cŵn dewr iawn a byddwn yn clywed am anifeiliaid blewog sy'n gymorth neu'n gysur i'w perchnogion.

Un o'r straeon rhyfeddol yw hanes Pero'r ci defaid oedd wedi teithio 240 o filltiroedd o Cumbria i Geredigion i fod nôl gyda’i deulu. Ac mae stori’r berthynas arbennig rhwng Malan Wilkinson a’i chi, Wini Lwyd, yn profi fod y dywediad ‘Ffrind gorau dyn’, yn sicr yn wir i'r ddau yma.

“Pan da chi’n cael ci bach, mae’r bond yno gyda’r perchennog yn syth. Unwaith fyddwch chi’n ffrindiau, fyddwch chi’n ffrindiau am oes,” meddai Alan James, perchennog Pero'r ci defaid sy’n byw ym Mhenryncoch, Ceredigion.

“Danfonwyd Pero i fyny i Cockermouth, Cumbria i weithio gyda’r defaid yno ond roedd e’n colli ei gartref. Roedd e’n gwrthod gwneud unrhywbeth achos ei fod e’n ein colli ni gymaint. Sut ffeindiodd ei ffordd adref nawn ni byth wybod! Erbyn hyn mae Pero yn arwr yn lleol. Pan fyddai’n mynd i’r Sioe Frenhinol, mae pobl yn adnabod Pero cyn fi!”

Mae stori Wini Lwyd a’i pherchennog Malan Wilkinson yn ddigon i ddod a deigryn i’r llygad. Mae Malan, sy’n dod o Gaernarfon, wedi siarad yn agored yn y gorffennol am ddioddef o iselder ac mae hi’n canmol Wini am ei helpu yn ystod adegau tywyll ei bywyd.

“Mae rhywbeth am Wini sydd wedi fy helpu i yn ystod cyfnodau o iselder ac mae cael mynd allan efo hi yn bleser pur,” meddai Malan. “Dwi wrth fy modd bod S4C yn chwilio am arwr neu arwres achos yn ddi-os, Wini Lwyd yw fy arwres i. Ar ddiwrnodau lle dwi di methu codi, golchi a gwneud y pethau mwyaf syml, mae Wini wedi rhoi ei phawen fach ar fy ysgwydd a da ni wedi dechrau’ r diwrnod efo’n gilydd.”

Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 14 Tachwedd ac fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid. Y wobr yw gwerth blwyddyn o fwyd ci gan y cwmni o Ogledd Cymru, Pero, sy’n noddi’r gystadleuaeth a hamper o nwyddau.

Y tri sy’n beirniadu’r gystadleuaeth yw Sara Manchipp, cyn Miss Cymru sy’n lys genhades y ganolfan RSPCA Llys Nini, y milfeddyg Dr Lowri Davies a Jonathan Rees o’r cwmni bwyd ci, Pero.

“Mae’r berthynas rhwng ci a’i berchennog yn arbennig iawn, ac yn un i’w ddathlu. Mae Pero yn hapus iawn i weithio gyda S4C i ddod o hyd i gi dewraf Cymru ac o beth ry’ ni eisoes wedi ei weld, mae digon ohonyn nhw yng Nghymru!” meddai Jonathan Rees, Cyfarwyddwr gyda chwmni Pero.

I gymryd rhan, anfonwch lun a disgrifiad o’ch ci i heno@tinopolis.com

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?