S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Postfeistres eiconig yn dod i’r brig mewn arolwg barn i ddod o hyd i Gewri Cwmderi

03 Tachwedd 2017

Mae postfeistres eiconig Cwmderi wedi curo her gan un o'r breswyliaid presennol y pentref i gyrraedd brig rhestr deg uchaf Cewri Cwmderi yn dilyn pleidlais gan y gwylwyr.

Cynhaliwyd y bleidlais fel rhan o dymor Chwedlau S4C, sy’n cynnwys casgliad o raglenni sy'n gymysgedd o'r hynafol a'r cyfoes – gan gynnwys dod o hyd i gymeriad mwyaf chwedlonol Pobol y Cwm.

Datgelwyd canlyniad yr arolwg barn mewn rhaglen arbennig, Cewri Cwmderi, a ddarlledwyd ar nos Iau, 2 Tachwedd. Mae’r rhaglen ar gael ar alw ar s4c.cymru ac BBC iPlayer.

Gofynnodd BBC Cymru, cynhyrchwyr y cyfres sebon, i’r gwylwyr bleidleisio am eu hoff gymeriad dros y 43 mlynedd diwethaf a daeth un o'r cymeriadau gwreiddiol, Magi Post, i’r brig.

Wedi'i chwarae gan Harriet Lewis, fe wnaeth Magi Post guro un o gymeriadau drwg y gyfres, Garry Monk, sy’n cael ei chwarae gan Richard Lynch, i gyrraedd y brig .

Cafodd y actores Harriet Lewis, a fu farw yn 1999, ei magu yn Nhrebanos yng Nghwm Tawe. Dechreuodd ei gyrfa fel athro ysgol cyn symud ymlaen i fod yn actores broffesiynol ac yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cwmderi.

Cafodd y rhaglen ei gyflwyno gan DJ Radio 1 Huw Stephens, sy’n wyliwr brwd o'r gyfres sebon, ac roedd y 10 uchaf yn gymysgedd o sêr ddoe a heddiw Pobol y Cwm gan gynnwys Sioned Charles, Dai a Diane, a theulu’r Jonesiaid.

Dywedodd golygydd y gyfres, Llyr Morus, "Rwy'n falch iawn bod Magi Post wedi ennill y bleidlais. Mae’n enghraifft o’r da’n curo’r drwg ac roedd ei phortread naturiol o un o gymeriadau mwyaf twymgalon y dyffryn yn ysbrydoliaeth i’r cast presennol. Mae'n rhaid i mi ychwanegu ei fod yn deyrnged i dalent yr actor Richard Lynch y gallai cymeriad mor ddiegwyddor â Garry Monk ddod yn ail. Ond mae gwylwyr yn caru cymeriadau llawn angerdd ac mae Garry, beth bynnag yw eich barn amdano, yn llawn ysbryd.”

Meddai Gillian Elisa, a chwaraeodd Sabrina Harries, cynorthwy-ydd swyddfa bost Magi Post am nifer o flynyddoedd, "Roedd Magi Post yn gymeriad na allech chi ei anghofio, roedd hi'n bersonoliaeth enfawr. Roedd hi mor fywiog. Wrth glywed ei llais, roedd rhaid i chi edrych ar y teledu. Roedd hi wastad yn perfformio ac roeddech chi’n gwybod y byddech chi'n cael hwyl os oedd hi yn yr olygfa gyda chi. Roedd rhai’n meddwl ei bod hi dros y top, ond mae rhai cymeriadau go iawn felly.”

Dywedodd Huw Stephens, sy’n cyfaddef mai ei hoff gymeriad o yn Pobol y Cwm yw bachgen drwg sydd wedi tyfu’n ddyn da, Mark Jones, "Llongyfarchiadau i Magi Post. Mae'n haeddiannol iawn. Ond pwy a ŵyr pwy fyddai’n ennill arolwg barn mewn rhai blynyddoedd pan mae'r gyfres sebon yn parhau i gynhyrchu cymeriadau chwedlonol.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?