S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dathlu ceisiau chwedlonol ar y Clwb Rygbi

13 Tachwedd 2017

Bydd rhai ceisiau dros Gymru yn byw am byth yng nghof y genedl ac ym mis Tachwedd mae Clwb Rygbi Rhyngwladol yn gofyn am farn y cyhoedd wrth ddewis y cais mwyaf chwedlonol yn y crys coch.

Fel rhan o ddathliadau mis Chwedlau ar S4C, mi fydd tîm Clwb Rygbi Rhyngwladol yn gwahodd y cyhoedd i ddewis Cais i Gymru, sef eu hoff gais o restr fer wedi ei dewis gan banel y Clwb Rygbi; cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, cyflwynydd Clwb Rygbi, Gareth Rhys Owen a’r sylwebydd Gareth Charles.

Mae’r rhestr yn cynnwys cais o bob degawd ers y 1960au - o bencampwriaethau'r 5 Gwlad, 6 Gwlad a Gemau'r Hydref - yn ogystal ag un cais ychwanegol sy'n deyrnged i Gareth Edwards ar flwyddyn ei ben-blwydd yn 70.

Cafodd y rhestr ei gyhoeddi ar S4C yn ystod y darllediad byw o gêm Cymru v Awstralia ar ddydd Sadwrn, 11 Tachwedd ac maen nhw ar gael i'r gwylio eto, dro ar ôl thro, ar wefan s4c.cymru/caisigymru

Rhestr fer Cais i Gymru yw:

• 60au – Barry John v Lloegr – 1969

• 70au – Phil Bennett v Yr Alban - 1977

• 80au – Adrian Hadley v Lloegr - 1988

• 90au – Craig Quinnell v Ffrainc - 1999

• 00au – Ryan Jones v Yr Alban - 2005

• 10au – Alex Cuthbert v Lloegr - 2013

• Cais ychwanegol: Gareth Edwards v Yr Alban - 1972

Ewch i wefan s4c.cymru/caisigymru i wylio'r saith cais a phleidleisio am eich ffefryn. Mi fydd y cais mwyaf poblogaidd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gêm Cymru v Seland Newydd, yn fyw ar S4C ar ddydd Sadwrn 25 Tachwedd.

Doedd dewis dim ond saith perl o blith yr holl geisiau chwedlonol ddim yn dasg hawdd, meddai Gareth Rhys Owen, cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, sy'n gynhyrchiad gan BBC Cymru, ac sy'n dangos holl gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref a 6 Gwlad 2018 yn fyw ar S4C.

"Ry' ni fel cenedl yn gwerthfawrogi rygbi sydd â thipyn o hud a lledrith, nid grym a phŵer fel y Saeson a’r Springboks," meddai Gareth Rhys Owen. "Barry John, Gareth Edwards, Phill Bennett a Shane Williams yw ein harwyr ni. Efallai y bydd y rhestr fer yn ein hatgoffa am yr arddull 'Gymreig' o chwarae, er mor anodd yw esbonio beth yn union mae hynny’n ei olygu!"

Er bod y gamp wedi gweddnewid ers dyddiau tîm chwedlonol Cymru yn y 1970au, mae Gareth yn grediniol fod y reddf o chwarae rygbi deniadol yn dal i fodoli.

"Mae 'na gymaint o strwythur i’r gêm y dyddiau yma ac mae hi’n anoddach sgorio cais o chwarae agored. Ond, dw i ddim yn meddwl fod yr arddull Gymreig wedi diflannu," ychwanega Gareth.

"Mae Warren Gatland yn gobeithio datblygu gêm fwy agored, falle un sy’n cael ei ddylanwadu gan y Scarlets, felly mae hynny’n argoeli’n dda. Mae ‘na hefyd chwaraewyr newydd eraill yn y garfan hefyd a dyna sy’n gwneud Gemau’r Hydref mor ddiddorol eleni."

Ewch i daro eich pleidlais ar wefan s4c.cymru/caisigymru. Mae'r bleidlais yn cau am 11.00 nos Wener 24 Tachwedd. Does dim cost i gymryd rhan a does dim ond modd pleidleisio un waith.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?