S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teitlau Bocsio Ewrop a Chymru yn y fantol – yn fyw ar S4C

02 Tachwedd 2017

Gornest am deitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Ewrop fydd uchafbwynt noson o focsio ym Merthyr ar nos Wener 15 Rhagfyr, ac mi fydd y ffeit fawr yn cael ei dangos yn fyw ar S4C – y tro cyntaf i'r sianel ddarlledu bocsio yn fyw.

Ashley Brace o Lyn Ebwy, y Pencampwr Pwysau Bantam WBC Rhyngwladol, fydd yn ymladd Melania Sorrcoche o Sbaen am y teitl Ewropeaidd yng Nghanolfan Hamdden Merthyr. Bydd y noson, sydd wedi ei threfnu gan Sanigar Events, hefyd yn cynnwys dwy ornest am wregysau Bencampwriaeth Cymru.

Bydd y rhaglen ar S4C yn dechrau am 9.30 yr hwyr, ar nos Wener 15 Rhagfyr, gyda Rhys ap William yn cyflwyno a Gareth Roberts yn y blwch sylwebu.

Dywedodd hyrwyddwr y noson, Jamie Sanigar: "Bydd y noson yn un hanesyddol i focsio yng Nghymru ac rydw i'n falch iawn ein bod ni wedi medru sicrhau gornest gartref wrth i Ashley Brace gystadlu am Bencampwriaeth Ewrop. Dyma gyfle euraidd i Ashley ennill pencampwriaeth fawr a’i rhoi mewn safle gwych i gystadlu am deitlau byd yn 2018. Mae hefyd yn hwb fawr i'r gamp yng Nghymru fod y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C."

Yn ei gyrfa hyd yma mae’r bocsiwr 26 oed, Ashley Brace, wedi ennill pob un o’i saith gornest. Ym mis Ebrill fe drechodd Alexandra Vlajk o Hwngari yng Nglyn Ebwy i hawlio’r bencampwriaeth Pwysau Bantam WBC Rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi dweud y buasai'n dymuno ymladd yn erbyn y pencampwr Olympaidd dwbl, Nicola Adams, yn y dyfodol.

Mae gan ei gwrthwynebydd Sorroche, sy'n 27 oed, record o 12 buddugoliaeth, dwy golled ac un gornest cyfartal, ac mae hi’n drydydd ar restr detholion Ewrop. Fe gystadlodd am y gwregys WBA Pwysau Bantam y Byd y llynedd, ond fe gollodd ar benderfyniad hollt.

Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: "Am y tro gyntaf bydd S4C yn darlledu noson o focsio yn fyw ac ry' ni’n gobeithio am noson i’w chofio. Mae gyrfa Ashley Brace yn mynd o nerth i nerth ac wrth iddi gystadlu am Bencampwriaeth Ewrop, ry' ni'n falch o allu dangos yr ornest i’r genedl a thu hwnt."

Cyn i Brace a Sorroche gamu i'r sgwâr, bydd dwy ornest arall am wregysau Bencampwriaeth Cymru. Yn y gyntaf bydd Gavin Gwynne o Ferthyr yn herio Henry Janes o Gaerdydd, am Bencampwriaeth adran pwysau ysgafn Cymru. Mae Gwynne yn brolio record berffaith o saith buddugoliaeth heb golli ac fe fydd yn siŵr o dderbyn anogaeth gref gan y cefnogwyr lleol.

10 buddugoliaeth, 21 colled a dau ornest cyfartal ydi record Henry Janes yn y sgwâr hyd yn hyn, ond ar ôl iddo ennill tair a sicrhau dau ornest cyfartal yn y flwyddyn ddiwethaf, bydd Janes yn hyderus wrth baratoi ar gyfer yr ornest yma.

Bydd y Bencampwriaeth Pwysau is drwm Cymru hefyd yn y fantol ym Merthyr, wrth i Nathan Thorley o Gaerdydd ymladd yn erbyn Jermaine Asare o Bontypridd.

Mae Thorley eisoes di ennill pob un o’i saith ornest hyd yn hyn, tra bod Asare wedi colli dwy ac ennill ar saith achlysur. Mae’r ddau ymladdwr wedi ennill medalau efydd dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad fel amaturiaid, ac mae’r ddau yn cael ei ystyried fel paffwyr pwerus.

Bydd gornestau eraill y noson yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau i’w ddod. Y cwmni cynhyrchu, Cwmni Media Atom, fydd yn darparu’r rhaglen ar ran S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?