S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Band Cymru a Band Ieuenctid Cymru 2018

25 Medi 2017

 Yn dilyn llwyddiant cyfres Band Cymru 2016 a Band Ieuenctid Cymru 2016, mae S4C yn falch o gyhoeddi Band Cymru 2018 a Band Ieuenctid Cymru 2018. Cystadleuaeth i fandiau chwyth, pres a jazz yw Band Cymru ac mae Band Ieuenctid Cymru yn addas i bobl o dan 18 oed. Ac wrth lwc, dal cyfle i chi rhoi cais mewn i gystadlu eleni!

Yn 2016, roedd canmol mawr i safon uchel y bandiau Cymreig gan banel rhyngwladol ac fe wnaeth y gynulleidfa deledu fwynhau gwledd o gerddoriaeth.

Dyma gyfle unigryw i fandiau Cymru ddangos eu doniau disglair ar y teledu gyda gwobr o £10,000 i enillydd Band Cymru a £1,000 i enillydd y categori ieuenctid.

Rhaid i bob band gael isafswm o 12 offeryn chwyth neu bres ac uchafswm o 5 person yn chwarae offeryn nad sy'n offeryn chwyth neu bres. Ni chaniateir mwy na 35 aelod mewn unrhyw fand.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Dyma’r drydydd gwaith i ni gynnal Band Cymru, a’r ail dro i ni gynnal Band Ieuenctid Cymru. Mae’r ddwy gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth ac mae S4C yn andros o falch i gefnogi bandiau pres, chwyth a jazz Cymru unwaith eto."

Yn dilyn cyfres o glyweliadau sain ledled Cymru ar gyfer cystadleuaeth Band Cymru 2018, gwahoddir 12 band i ymddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar benwythnos 17-18 Chwefror 2018. Bydd y 12 band sydd yn mynd trwyddo i'r rowndiau terfynol yn derbyn gwobr o £500.

Bydd y 12 band yn cael eu rhannu i bedwar grŵp ar gyfer pedair rhaglen deledu, a bydd enillydd ar ddiwedd pob rhaglen. Ni fydd ennill sesiwn gystadleuol yn gwarantu lle yn y rownd derfynol.

Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dewis 4 band o’r penwythnos i ymddangos yn y rownd derfynol ac yn derbyn £500 ychwanegol. Cynhelir y ffeinal ym Mhrifysgol Abertawe 22 Ebrill 2018, a bydd enillydd teitl Band Cymru 2018 yn derbyn gwobr bellach o £7,000.

Bydd gwobrau pellach i’r cyflwyniad gorau a’r unawdydd gorau.

Yn dilyn cyfres o glyweliadau ar gyfer cystadleuaeth Band Ieuenctid Cymru 2018, gwahoddir pedwar band i ymddangos ym Mhrifysgol Abertawe 21 Ebrill 2018. Mae pob band ieuenctid sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn £250.

Dyddiad cau'r ddwy gystadleuaeth yw 6 Hydref 2017. Gwahoddir ceisiadau oddi wrth fandiau sy'n deillio o Gymru ond ni chaniateir i gyn-enillwyr Band Cymru gystadlu yng nghystadleuaeth 2018.

Er mwyn cystadlu cysylltwch â chwmni Rondo, 029 2022 3456, neu ar ebost: bandcymru@rondomedia.co.uk

Gweler amodau llawn y gystadleuaeth ar www.s4c.cymru/bandcymru ac ar www.rondomedia.co.uk

DIWEDD

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?