S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pontio dan ei sang ar gyfer premiere drama newydd Craith

05 Ionawr 2018

 Llond theatr o bobl yng nghanolfan Pontio oedd y cyntaf i brofi blas ar ddrama drosedd newydd S4C, Craith mewn dangosiad arbennig yng nghwmni rhai o sêr y gyfres.

Cynhaliwyd y premiere arbennig neithiwr (4 Ionawr) yng nghanolfan Pontio, Bangor lle dangoswyd pennod gyntaf y gyfres iasol ynghyd â sesiwn sgwrsio yng nghwmni'r prif actorion Siân Reese-Williams a Rhodri Meilir, ac aelodau'r tîm cynhyrchu. Trefnwyd y premiere ar y cyd gan BAFTA Cymru a S4C.

Mae'r ddrama wyth rhan, sy'n dechrau ar S4C nos Sul yma, 7 Ionawr am 9.00, yn adrodd hanes y ditectif DI Cadi John (Siân Reese-Williams) sy'n dychwelyd i Ogledd Cymru i ofalu am ei thad gwael ei iechyd. Fodd bynnag, pan mae corff merch ifanc yn cael ei ddarganfod mewn afon leol, daw'n amlwg bod creithiau'n llechu y tu ôl i olygfeydd godidog Eryri a'r ardal o'i hamgylch. Mae byd Cadi - a'r byd o'i chwmpas - yn cael ei newid am byth.

Ymhlith gweddill y cast mae Rhodri Meilir (Byw Celwydd, Pride), Gwyneth Keyworth (Game of Thrones, Wasted, Bang) a Siôn Alun Davies (Endeavour, Y Gwyll/Hinterland). Mae'r cynhyrchiad Severn Screen hwn yn tynnu ynghyd Mark Andrew ac Ed Talfan, crewyr y gyfres, a'r cyfarwyddwr Gareth Bryn, sydd i gyd wedi gweithio ar y gyfres ddrama Y Gwyll/Hinterland. Cynhyrchydd y gyfres yw Hannah Thomas.

Ymysg awduron y gyfres mae'r nofelydd Caryl Lewis, sy'n enillydd amryw wobr lenyddol, a Jeff Murphy, awdur sydd wedi ennill BAFTA Cymru, a James Rourke.

Craith

Nos Sul 7 Ionawr 9.00, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Hefyd nos Wener 12 Ionawr gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?