S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C ar dân i gyrraedd gwylwyr newydd wrth gyhoeddi ap newydd

08 Ionawr 2018

Mae gwylwyr gwasanaeth Amazon Fire bellach yn gallu manteisio ar ap newydd er mwyn gwylio rhaglenni S4C.

Heddiw (8 Ionawr) mae ap cyntaf S4C ar gyfer defnyddwyr Amazon Fire wedi cyrraedd llwyfan Amazon Fire, sy'n caniatáu gwylio arlwy eang o raglenni S4C yn fyw ac ar alw.

Mae ap S4C ar gyfer y gwasanaeth Amazon Fire ar gael i'w lwytho o Amazon nawr, o ddydd Llun 8 Ionawr ymlaen. Mae'n rhoi mwy o amlygrwydd i gynnwys y sianel ar y gwasanaeth yma, ac yn hwyluso gwylio'r sianel yn fyw a’r amrywiaeth fawr o raglenni sydd ar gael ar alw.

Ymhlith yr uchafbwyntiau sydd ar gael i'w mwynhau mae'r gyfres ddrama boblogaidd Un Bore Mercher, gydag Eve Myles yn y brif ran. Mae pob pennod o'r ddrama afaelgar ar gael i'w gwylio gyda'i gilydd hyd nes 28 Ionawr. A bob nos Iau bydd lliw a rhyfeddodau'r Great Barrier Reef i'w gweld ar eu gorau yng nghwmni Iolo Williams yn y gyfres Iolo: Deifio yn y Barrier Reef, gyda'r bennod gyntaf ar gael i'w gwylio ar alw nawr.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C; "Gyda'r ap newydd yma rydym yn agor llwybr newydd i wylwyr at ein rhaglenni, ac yn caniatáu iddyn nhw ddewis gweld unrhyw raglen o'r amserlen yn fyw neu ar alw yn rhwydd. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod S4C yn cael ei gynnwys ar bob llwyfan, gan gynnwys pob set deledu glyfar sy'n cael ei hadeiladu, cam hanfodol er mwyn cynnal argaeledd at gynnwys iaith Gymraeg ac rydym yn gweithio tuag at ryddhau ap ar gyfer Samsung TV yn yr wythnosau nesaf. Mae rhyddhau'r ap yma yn gam mawr tuag at sicrhau mynediad rhwydd i'r gwasanaeth i ddefnyddwyr dau o’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd yn y DU, Samsung TV ac Amazon Fire. Mae hyn yn rhan o weledigaeth ddigidol hirdymor S4C."

Mae S4C eisoes ar gael ar bob llwyfan gwylio ar deledu yng Nghymru, ac ar draws y DU ar Sky, Freesat a Virgin TV. Mae pob rhaglen ar gael yn fyw neu ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer, YouView, tvplayer.com ac Ap S4C ar gyfer Android ac iOS.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?