S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylio S4C ar i fyny dros yr ŵyl

09 Ionawr 2018

 Fe gynyddodd y nifer o bobl oedd yn gwylio S4C dros y Nadolig o 5% o gymharu â gostyngiad o 2% gan y prif sianeli cyhoeddus eraill.

Roedd y ffigyrau, sy’n cael eu darparu gan BARB (Broadcasters' Audience Research Board) yn dangos fod rhwng Noswyl y Nadolig a Dydd Calan fe gynyddodd y nifer oedd yn gwylio S4C o 5% o gymharu â 2016, tra fe ostyngodd y niferoedd oedd y gwylio BBC One, BBC Two, ITV, Channel 4 a Channel 5 yng Nghymru o 2% o flwyddyn i flwyddyn.

Y prif gyfranwyr i lwyddiant Nadoligaidd S4C oedd y ddwy gêm Clwb Rygbi, gyda’r Dreigiau yn erbyn y Gweilch ar Noswyl Calan, wedi ei ddilyn yn agos gan y gêm rhwng y Scarlets a’r Gweilch ar Ŵyl San Steffan.

Uchafbwyntiau eraill y cyfnod oedd rhifyn arbennig Ryan a Ronnie o Noson Lawen a’r cyfle cyntaf i weld y chwaraewr rygbi enwog Shane Williams yn ei bantomeim Panto Shane a’i Belen Aur. Yn ogystal fe gyfrannodd comediwyr fel Tudur Owen, Siân Harries ac Elis James at hwyl yr ŵyl ar S4C.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans: “Mae 2017 wedi profi i fod yn flwyddyn arbennig iawn i S4C. Rhaid i ni ddiolch i’n tîm comisiynu a’r holl gynhyrchwyr ac unigolion talentog sydd wedi gweithio mor galed cyn ac yn ystod cyfnod yr ŵyl er mwyn dod ag amrywiaeth o raglenni safonol i’n sgriniau. Diolch hefyd i’r holl wylwyr - hen a newydd - sydd wedi croesawu S4C i’w cartrefi dros y Nadolig. Yn ogystal â chwaraeon byw, cerddoriaeth ac adloniant, yn ystod y misoedd diwethaf mae ein gwylwyr wedi mwynhau drama o’r safon uchaf gyda rhifyn olaf cyfres Eve Myles Un Bore Mercher yn uchafbwynt i nifer. Rwy’n falch o ddweud fod nifer o bobl wedi manteisio ar y cyfle dros y gwyliau i ddal i fyny gyda Bang, y gyfres ddrama wedi ei lleoli ym Mhort Talbot, sydd ar gael i wylwyr fwynhau fel ar ei hyd. Mae’n ddiwedd gwych i 2017 ac yn argoeli’n dda ar gyfer 2018.”

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?