S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2018

22 Ionawr 2018

 Mae wyth cân rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru 2018 wedi eu dewis. A bydd yr wyth yn cystadlu’n fyw ar S4C ar 1 Mawrth yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor, gyda’r cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis Morris wrth y llyw.

Y wobr yw £5,000 i gyfansoddwr y gân fuddugol, gyda’r ail a’r trydydd yn y gystadleuaeth hefyd yn derbyn gwobrau o £2,000 a £1,000. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis drwy bleidlais gan y gwylwyr adref, fydd yn medru bwrw’u pleidlais drwy godi’r ffôn. Bydd y gân fuddugol yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill.

Mae tocynnau i fynychu noson Cân i Gymru ar nos Iau, 1 Mawrth ar gael yn rhad ac am ddim o Swyddfa Docynnau Pontio, Bangor o 12.00 canol dydd, dydd Llun, 22 Ionawr drwy ffonio 01248 382828 neu ar wefan Pontio www.pontio.co.uk

Eleni, fe wnaeth S4C dderbyn 114 o ganeuon – y nifer fwyaf ers rhai blynyddoedd. Un o’r panelwyr oedd yn dewis y rhestr fer o wyth cân oedd y cerddor, bardd, actor a chomedïwr Dewi ‘Pws’ Morris:

“Roedd nifer dda wedi cystadlu; a chroestoriad da o oedrannau wedi cystadlu. Roedd y safon yn amrywio dipyn, ond gawson ni lot o hwyl yn dewis yr wyth oedd yn dod i’r brig – roedd ‘na dipyn o anghytuno! Geiriau yw ’mhethau i wastad wedi bod, dwi’n hoffi caneuon sy’n dweud rhywbeth – sy’n rhoi darlun neu emosiwn i ti. Mae unrhyw ganeuon sydd â thinc Celtaidd yn sefyll allan i mi hefyd, gan ei bod hi angen cynrychioli Cymru yn Iwerddon,” meddai Dewi.

Ar y panel hefyd oedd y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis; Heledd Watkins, basydd a phrif ganwr y grŵp HMS Morris; a’r cyfansoddwr a chanwr Steffan Rhys Williams.

Yr wyth sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yw: 

Dwi’m yn Dy Nabod Di – Dafydd Dabson ac Anna Georgina:

Mam a mab sy’n dod o Langwnnadl ym Mhen Llŷn sydd wedi dod at ei gilydd i ysgrifennu’r gân. Mae Anna yn athrawes telyn, ac mae Dafydd, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd yn athro gitâr. 

Tincian – Beth Williams-Jones a Sam Humphreys: 

Mae Beth, sy’n wreiddiol o Abertyleri a Sam sy’n hanu o Nefyn ym Mhen Llŷn bellach yn byw yng Nghwmbrân, ac yn aelodau o’r band gwerin Calan. Maen nhw hefyd yn aelodau o’r band gwerin No Good Boyo. Dyma’r ail dro iddyn nhw gystadlu yn Cân i Gymru – roedd eu cân ymysg yr wyth olaf yn 2016.

Dim Hi – Hana Evans:

Daw Hana o Sully, ger Caerdydd, ac mae’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Bro Morgannwg. Mae hi wedi cyfansoddi yn y Saesneg ers yn ifanc. Bydd hi’n rhyddhau sengl yn Chwefror.

Byw a Bod – Mared Williams:

Daw Mared yn wreiddiol o Lanefydd ger Dinbych ac ar hyn o bryd yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds. Mae hi’n aelod o’r band Trŵbz, ac yn gigio ar ei phen ei hun o gwmpas Leeds. Rhyddhaodd ei sengl gyntaf ‘Dolig Dan y Lloer’ dros y Nadolig, a bydd yn rhyddhau sengl gyda Denton Thrift, grŵp electroneg o Leeds yn fuan.

Ysbrydion – Aled Wyn Hughes:

Mae Aled, sy’n byw ym Methesda, ond o Fotwnnog, Pen Llŷn yn wreiddiol, yn aelod o fand Cowbois Rhos Botwnnog. Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer “A Oes Heddwch” cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Môn y llynedd ar y cyd gyda’i frawd Dafydd Hughes.

Ton – Gwynfor Dafydd a Michael Phillips:

Un o Donyrefail yw Gwynfor, sydd bellach yn astudio Ieithoedd Tramor ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae Michael yn athro cerdd sy’n byw ym Malvern, sir Caerwrangon er ei fod yn dod o Abertawe’n wreiddiol. Doedd y ddau ddim yn adnabod ei gilydd tan iddyn nhw fynd ati i gyfansoddi’r gân ar gyfer y gystadleuaeth hon. Roedd Michael eisoes wedi ysgrifennu’r alaw, ac yn chwilio am rywun i ysgrifennu’r geiriau. Cysylltodd gyda Gwynfor wedi iddo’i weld ar eitem ar raglen Heno ar S4C am feirdd oedd yn cymryd rhan yn Her 100 Cerdd. Mae Gwynfor wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith.

Cofio Hedd Wyn – Erfyl Owen:

Mae Erfyl o bentref Rhewl, Rhuthun yn gweithio i Gyngor Sir Dinbych, ac mae’n aelod o deulu cerddorol Hafod y Gân. Roedd yn arfer cyfansoddi caneuon gyda’i ddiweddar fam ar gyfer penblwyddi ac achlysuron arbennig i ffrindiau a theulu, ond dyma’r tro cyntaf iddo gyfansoddi’r alaw a’r geiriau. Roedd yn awyddus i greu geiriau oedd am fynd at galon y genedl, wrth sôn am ganmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn.

Ti’n Frawd i Mi -Owain Glenister:

Mae Owain, sy’n dod o Lanelli, yn gweithio i Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot, ac yn berchen Y Lle, canolfan Gymraeg yn Llanelli. Mae’n aelod o’r grŵp gwerin Madog, ac mae wedi cyfansoddi mewn gweithdai i bobl ifanc, ond dyma’r tro cyntaf fydd un o’i ganeuon yn cael ei chlywed gan gynulleidfa ehangach.

Bydd manylion ynghylch pwy fydd yn perfformio pa gân ar 1 Mawrth yn dilyn ymhen rhai wythnosau.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?