S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch antur Cymru yng Nghwpan China gyda S4C a BBC Cymru

01 Chwefror 2018

Gyda thîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan China ym mis Mawrth, bydd modd i gefnogwyr adref ddilyn y tîm - diolch i becyn cynhwysfawr o gemau byw a rhaglenni uchafbwyntiau ar S4C a BBC One Wales.

Bydd Ryan Giggs yn arwain Cymru am y tro cyntaf wrth i’r Dreigiau herio China yn y Guangxi Sports Center yn Nanning, yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth, ddydd Iau, 22 Mawrth.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC One Wales ac ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac ar gael hefyd ar-lein, gyda’r gic gyntaf am 11.35yb.

Fe fydd uchafbwyntiau estynedig o’r gêm i’w gweld ar S4C yn ddiweddarach ar yr un diwrnod.

Ar y diwrnod canlynol, bydd Uruguay a’r Weriniaeth Tsiec yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn y gêm rownd gynderfynol arall.

Fe fydd Cymru yn chwarae unwaith eto ddydd Llun, 26 Mawrth, wrth i’r gystadleuaeth gyrraedd ei phenllanw.

Bydd enillwyr y ddwy gêm agoriadol yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol, tra bydd y ddau dîm a gollodd yn cystadlu yn y gêm trydydd safle.

Bydd ail gêm Cymru yn cael ei dangos yn fyw ar S4C ac ar s4c.cymru ac i’w clywed ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar ei gwasanaethau ar-lein.

Fe fydd cic gyntaf y gêm trydydd safle am 8.35yb, tra bydd cic gyntaf y rownd derfynol am 12.35yh.

Bydd clipiau ac uchafbwyntiau o’r gemau hefyd ar gael ar wefannau BBC Wales Sport a BBC Cymru Fyw.

Tîm cynhyrchu BBC Cymru fydd yn gyfrifol am y rhaglenni.

Dywedodd Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru: "Mae taith Cymru i China yn gyfle cyffrous newydd ac rwy’n falch fod BBC Cymru ac S4C yn gallu mynd â’r gwylwyr gyda ni ar yr antur.

"Mae hi’n addo bod yn brofiad arbennig wrth i Ryan Giggs arwain y tîm cenedlaethol am y tro cyntaf fel rheolwr. Trwy ein darpariaeth ar y teledu, radio ac arlein, fe wnawn ni’n siŵr nad yw’r cefnogwyr yn colli munud o’r cyffro."

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Nid pawb fydd yn medru teithio i ben arall y byd i ddilyn Cymru yng Nghwpan China, ond rydym yn falch iawn ein bod ni’n gallu dangos y gemau i’r cefnogwyr gartref.

"Fydd hwn yn brofiad newydd i’r tîm cenedlaethol ac mae’n wych ein bod ni’n gallu parhau ein cefnogaeth gyda’r tîm yn cychwyn cyfnod newydd."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?