S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyd-gynhyrchiad Geltaidd yn denu cefnogaeth o Tsieina

16 Chwefror 2018

Ar drothwy daith hanesyddol o Gymru i Tsieina, i gyfnewid syniadau diwylliannol a meithrin cysylltiadau masnachol, mae cwmni teledu o Tsieina wedi rhoi eu cefnogaeth i gyfres deledu sy’n cael eu creu gan ddarlledwyr gwledydd Celtaidd, gan gynnwys S4C.

Yn ystod mis Mawrth, bydd sawl unigolyn o Gymru yn hedfan i Tsieina ar gyfer daith fasnachol, sydd wedi ei drefnu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y grŵp yn ymweld â Hong Kong a Shanghai i weld sawl enghraifft ble mae cydweithrediad rhwng cwmnïoedd o Gymru a Tsieina. Ymhlith y prosiectau yma mae cyfres deledu o’r enw Llanw, sydd wedi denu cefnogaeth gan gynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn China, LIC China.

Mi fydd Llanw yn cynnwys tair rhaglen awr o hyd, ac yn archwilio dylanwad y llanw ar yr arfordir. Bydd pedwar darlledwr - S4C, BBC Gogledd Iwerddon, TG4 a BBC Alba – yn cyd-weithio ar y gyfres am y tro gyntaf, er mwyn comisiynu cyfres i'w dangos i gynulleidfaoedd ym mhob un o'r gwledydd.

Yn arwain y cynhyrchiad mae Cwmni Da, yng Nghaernarfon, a Mac TV o'r Alban. Mae’r gyfres wedi datblygu yn dilyn sesiwn syniadau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Ynys Manaw y llynedd, ac fe lwyddodd i ddenu diddordeb a chefnogaeth gan TG4, BBC ALBA, BBC Gogledd Iwerddon ac S4C. Bydd y gyfres yn cael ei ddosbarthu gan Sky Vision.

Meddai Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, Llion Iwan: "Tydi cydweithio rhwng S4C a darlledwyr y gwledydd Celtaidd eraill ddim yn newydd, ond mae dod â'r pedwar darlledwr yma at eu gilydd yn gamp ry' ni'n falch iawn o fod yn rhan ohono. Mae’n gytundeb gyda LIC yn Tsiena yn tanlinellu’r diddordeb sydd gan bobl ledled y byd yn y llanw, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth a’i gydweithrediad.

"Mae Llanw yn gyfres fydd yn apelio at wylwyr yn y pedwar darlledwr ac rydym yn falch iawn hefyd mai cwmni o Gymru sydd yn arwain ar y cynhyrchiad. Yn sicr mae partneriaethau fel hyn yn dod a photensial pellach i'r sector gynhyrchu y tu hwnt i Gymru."

Dywedodd Dylan Huws, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da: "Mae Cwmni Da a Mac TV yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda'r holl bartneriaid, mae Llanw wedi tanio dychymyg pawb dan sylw ac mae potensial enfawr yn y gyfres. Fedrwn ni ddim aros i gael dechrau!"

Dywedodd Joanna Young, cynhyrchydd datblygu MacTV: "Wedi i’r syniad egino gyda sgwrs rhwng cynhyrchwyr ym MIPCOM, mae’r prosiect bellach wedi blaguro ac arwain at gynnig ffurfiol i gomisiynwyr yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae MacTV yn falch iawn o’r bartneriaeth gyda Cwmni Da er mwyn gallu rhannu straeon y llanw gyda chynulleidfa eang."

Dywedodd Margaret Cameron, Golygydd Sianel BBC ALBA: "Rydym yn gyffrous ac yn uchelgeisiol i gwmnïau yr Alban gymryd rhan mewn cynyrchiadau o'r radd flaenaf, fel Llanw. Mae cefnogi prosiectau cyd-gynhyrchu yn gwella ein darpariaeth i gynulleidfa BBC ALBA ac yn datgloi'r potensial creadigol ac economaidd yn ein cyflenwyr."

Dywedodd Susan Lovell, Pennaeth Comisiynu Cynnwys, BBC Northern Ireland: "Pan mae darlledwyr yn medru cyfuno i gefnogi prosiectau o’r math yma, y rhai sy’n elwa mwyaf yw’r gynulleidfa. Mae cydweithrediad fel hyn yn ein galluogi ni i gystadlu â chynyrchiadau hanes naturiol o’r safon uchaf, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i arddangos y tirluniau godidog a’r straeon rhyfeddol sy’n cael ei greu gan y llanw."

Dywedodd Proinsias Ní Ghráinne, Comisiynydd Golygyddol, TG4: "Mae TG4 yn falch o ymuno â'n partneriaid darlledu yn y gwledydd Celtaidd eraill i gomisiynu fersiwn Gymraeg o'r gyfres uchelgeisiol hon. Mae’r thema Llanw yn taro tant yn arbennig i ni fel ynys a fydd yn sicr yn ennyn cynulleidfaoedd TG4 yn Iwerddon a ledled y byd."

Mae Steven Seidenberg, pennaeth cyd-gynhyrchiad rhyngwladol yn LIC China, "yn hapus i ymuno â'r prosiect pwysig hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Cwmni Da a'i phartneriaid cynhyrchu a darlledu Celtaidd ar y prosiect cyffrous hwn."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?