S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datganiad: Dechrau Canu Dechrau Canmol

18 Chwefror 2018

Datganiad wrth ymateb i drafodaeth ar raglen Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, ar fore Sul 18 Chwefror;

Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Cynnwys S4C sydd â chyfrifoldeb am raglenni ffydd y sianel;

"Dros y blynyddoedd, mae Dechrau Canu Dechrau Canmol wedi gwasanaethu’r gynulleidfa yn ffyddlon ac wedi denu carfan o wylwyr cyson. Mae hi'n gyfres grefyddol sy’n greiddiol i wasanaeth S4C ac wrth gomisiynu cyfres newydd roeddem yn teimlo ei fod yn amser ail-lunio’r gyfres bwysig hon er mwyn sicrhau ei hirhoedledd.

"Ein nod gyda'r gyfres yw cynnig cyfle i ganu mawl ar ffurf addoliad ac ar ffurf adloniant. Mae'n gyfle i ddathlu’r traddodiad mawl a chanu arbennig sy’n ein nodweddu ni fel cenedl. Ond mi fydd hefyd yn gyfle i ddysgu a rhannu profiadau am y Gymru aml-ffydd ac aml-ddiwylliant rydym yn byw ynddi. Mae'n rhaid i'r sianel adlewyrchu ardaloedd, pobl a chymunedau amrywiol Cymru heddiw ac mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn gyfle i rannu profiadau personol am ffydd ymarferol ac ysbrydol fydd yn creu sgwrs ac yn cyffwrdd y galon."

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr cwmni Rondo Media, sy'n cynhyrchu'r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol;

"Canu emynau yw asgwrn cefn Dechrau Canu Dechrau Canmol ac yn sicr does dim unrhyw fwriad gennym ni i wanhau'r elfen yma. Mae’r ymateb rydym ni wedi ei dderbyn hyd yma yn ystod y recordiadau - o Landeilo i Fangor, o Gastell Nedd i Fodelwyddan - wedi bod yn galonogol. Ochr yn ochr gyda hyn mae cyfle i drafod, mewn eitemau dogfennol eu naws, agweddau eang o ffydd ac o grefydd, a sut mae’r Cymry cyfoes yn addoli yn yr unfed ganrif ar hugain."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?