S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clod i raglenni plant S4C gan wyliau ffilm a theledu yn Toronto a Munich

16 Chwefror 2018

 Mae dwy o raglenni plant S4C wedi derbyn clod gan sefydliadau uchel eu parch yng Ngogledd America ac Ewrop, wrth i Ŵyl Ffilm Toronto yng Nghanada, a'r Prix Jeunesse, ym Munich, Yr Almaen, gyhoeddi eu rhestrau o enwebiadau.

Yr wythnos yma, cyhoeddodd Gŵyl Ffilm Toronto yr enwebiadau ar gyfer yr ŵyl ffilmiau plant, TIFF KIDS, ac ar y rhestr fer mae'r ffilm Elen sy'n rhan o gyfres Sinema'r Byd ar S4C.

Yn gynhyrchiad gan Ie Ie Productions, ac yn rhan o gynllun ffilmiau rhyngwladol yr European Broadcasting Union (EBU), mae Elen yn ffilm am ddychymyg bywiog merch ddeng mlwydd oed sydd â'r cyflwr Epilepsi. Cafodd ei ffilmio yn ardal Bethesda, gyda Martha Jones yn chwarae'r brif ran a'r actor John Ogwen hefyd ymhlith y cast. Yr awdur a chyfansoddwr y gerddoriaeth yw Lisa Jên Brown o'r band gwerin 9Bach, sydd hefyd yn serennu yng nghyfres ddrama Gwaith Cartref.

Mae gŵyl TIFF KIDS yn cael ei chynnal rhwng 9 a 18 o Fawrth, ac yn ddathliad o'r byd ffilmiau i blant rhwng 3 a 13 oed. Bydd Elen yn cael ei dangos ar S4C am y tro cyntaf ym mis Mai.

Bob yn ail flwyddyn mae gŵyl deledu plant y Prix Jeunesse International yn cael ei chynnal, ac ar y rhestr fer eleni mae'r gyfres gêm Prosiect Z. Mae'r gyfres, sy'n gynhyrchiad gan Boom Cymru, yn cael ei darlledu ar S4C hyn o bryd, ac ynddi mae grwpiau o blant ysgol yn cwblhau tasgau er mwyn dianc o'u hysgolion heb ddenu sylw'r 'Zeds'; sef sombis sydd wedi eu heintio gan firws sy'n peryglu'r byd!

Mae Prosiect Z wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Prix Jeunesse International yng nghategori plant 11-15 oed, ac wedi ei dewis ar y rhestr fer o blith dros 400 o gynigion gan ddarlledwyr ar draws y byd. Mae'r gwobrau'n cael eu dyfarnu yn ystod yr ŵyl ym Munich, rhwng 15 a 30 Mai.

"Rydw wrth fy modd bod dau o gynyrchiadau S4C wedi cael eu cydnabod gan ddau sefydliad sydd mor uchel eu parch yn rhyngwladol," meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C. "Mae'r ddwy ŵyl yn dathlu creadigrwydd a chreu cynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc, rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni yn S4C fel buddsoddwyr mewn rhaglenni gwreiddiol i blant o bob oed. Llongyfarchiadau i dimau cynhyrchu Elen a Prosiect Z; mae'r enwebiadau yn glod i'w hymroddiad a'u creadigrwydd nhw."

Yn y blynyddoedd diweddar, mae sawl rhaglen blant S4C wedi eu henwebu yng ngwobrau'r Prix Jeunesse International. Yn eu plith mae'r ffilm Dad (Ffilmworks) ac Ysbyty Cyw Bach (Chwarel) a enwebwyd am wobrau yn 2016, a'r animeiddiad NiDiNi (Griffilms) yn 2014.

Yn ogystal â'r ddau enwebiad yma, ar 9 Chwefror cyhoeddodd gŵyl ryngwladol arall dri enwebiad i gynyrchiadau S4C. Mae'r ddrama Bang, y raglen ffeithiol Hen Blant Bach, a'r ddogfen emosiynol Colli Dad, Siarad am hynna, wedi cyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Rhyngwladol Efrog Newydd 2018.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?