S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged S4C i ddau berfformiwr dawnus

26 Chwefror 2018

Mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C wedi talu teyrnged i ddau ddyn wnaeth gyfraniad aruthrol i'r byd adloniant Cymraeg.

Bu farw'r actor Trefor Selway a'r cerddor John Griffiths dros y penwythnos.

Dywedodd Amanda Rees, am yr actor o Eglwysbach, Dyffryn Conwy a serennodd mewn cyfresi a ffilmiau fel Mostyn Fflint 'N Aye!, Oed yr Addewid, Y Palmant Aur a Hafod Haidd;

"Roedd yn drist clywed am farwolaeth Trefor Selway, actor a chyflwynydd a oedd ymysg y to arloesol o berfformwyr wnaeth helpu i sicrhau llwyddiant S4C o'r dyddiau cynnar. Roedd yn actor a allai chwarae cymeriadau trasig a doniol, a serennu mewn dramâu llwyfan clasurol, comedïau ysgafn, dramâu teuluol a ffilmiau dirdynnol. Wrth gydymdeimlo â'i deulu, hoffwn dalu teyrnged i ddyn a oedd yn feistr ar y grefft o gymeriadu ac arwain noson."

Ac meddai am y gitarydd bas o Bontrhydyfen sydd yn enwocaf am chwarae gydag Edward H. Dafis, ond wnaeth hefyd chwarae gydag Injaroc a Hergest ymysg eraill;

"Roedd cyfraniad John Griffiths i'r byd cerddorol Cymraeg yn anferth a bydd colled aruthrol ar ei ôl. Fel gitarydd bas i un o fandiau roc mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg erioed, Edward H. Dafis, fe helpodd i ysbrydoli cannoedd o bobl ifanc i godi'r gitâr a chreu miwsig yn y Gymraeg. Fe wnaeth gyfraniad mawr hefyd fel cerddor sesiwn ar amrywiaeth o raglenni adloniant a miwsig S4C gan berswadio cenhedlaeth o bobl Cymru i fwynhau, dilyn a dawnsio i fiwsig Cymraeg."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?