S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Guto Harri yn arwain cyfres newydd fydd yn ganolbwynt i arlwy wleidyddol S4C

27 Chwefror 2018

- Bydd Guto Harri, y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, yn cyflwyno cyfres o gyfweliadau fydd yn mynd at wraidd y pynciau gwleidyddol mwyaf yng Nghymru a'r DU.

 

Heddiw mae S4C wedi cyhoeddi comisiwn newydd o raglenni gan ITV Cymru fydd yn ehangu'r ddarpariaeth o raglenni gwleidyddol yn yr iaith Gymraeg.

I ddechrau, bydd y gyfres newydd gyda Guto Harri yn darlledu ym mis Mehefin 2018, ac yn cynnwys chwe rhaglen o gyfweliadau dwfn gydag unigolion allweddol yng nghoridorau pŵer San Steffan a Bae Caerdydd.

Mae'r cytundeb newydd gydag ITV Cymru hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer newyddiadurwyr ifanc. Bydd y cynllun yn gyfle i'r newyddiadurwyr hogi eu sgiliau drwy greu cynnwys gwleidyddol ffurf fer i'w ddarlledu ar-lein, ar lwyfan Hansh.

Daw'r newidiadau yn rhan o waith i adnewyddu arlwy wleidyddol y sianel. Mi fydd y comisiynau newydd gan ITV Cymru yn ychwanegu at raglenni sydd eisoes yn cael eu darparu gan eu hadran materion cyfoes; Y Byd ar Bedwar ac Ein Byd.

Mi fydd y cyfresi yn eistedd o fewn amserlen ar y cyd â bwletinau newyddion rheolaidd a'r brif raglen Newyddion 9 gan BBC Cymru, ynghyd â'r rhaglen drafod Pawb a'i Farn.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C; "Ein nod yw gosod rhaglenni gwleidyddol yn flaenllaw yn yr amserlen, a chyflwyno'r materion llosg gwleidyddol a chymdeithasol mewn ffordd fydd yn procio'r meddwl ac yn creu sgwrs – yn y wasg ac ar lawr gwlad. Rydym wedi comisiynu cyfres gyda Guto Harri, newyddiadurwr profiadol fydd ddim yn ofni gofyn cwestiynau anodd, gan fanteisio'n llawn ar ei brofiad a'i broffil ym myd newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth. A drwy fanteisio ar boblogrwydd llwyfan Hansh, rydym am danio'r drafodaeth ymhlith gwylwyr iau, gyda phwyslais ar ddarparu llwyfan ar gyfer llais pwerus ein pobl ifanc.

"Fel yr unig ddarlledwr teledu cyhoeddus iaith Gymraeg, mae cyfrifoldeb ar S4C i sicrhau deuoliaeth llais a phlwraliaeth, a drwy barhau i weithio â thimoedd newyddion a materion cyfoes profiadol BBC Cymru a ITV Cymru, ry' ni'n gweithio er mwyn creu arlwy sy'n sicrhau llwyfan i wahaniaethau barn, a bod yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth eang."

Meddai Geraint Evans, Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru; "Ry' ni'n croesawu'r her o gynhyrchu cyfres o raglenni gwleidyddol fydd at ddant pawb. Mae gwleidyddiaeth San Steffan a'r Bae yn effeithio arnom ni i gyd, ac mae'n holl bwysig bod cyfresi teledu yn cyflwyno gwleidyddiaeth mewn modd sy'n gwbl berthnasol i'r gynulleidfa ar lawr gwlad. Mae creu teledu poblogaidd yn rhan o hunaniaeth ITV, a bydd llais y bobl yn rhan hanfodol o'r gwasanaeth newydd; a gyda Guto Harri wrth y llyw bydd y gyfres newydd yn sicr o holi a herio enwau mawr y byd gwleidyddol.

"Rydym yn gwybod o brofiad mai ar lwyfannau digidol yn unig mae nifer o bobl ifanc yn derbyn eu newyddion a'u materion cyfoes. Mae'n holl bwysig felly ein bod ni, mewn partneriaeth ag S4C, yn darparu gwasanaeth ar y llwyfannau hynny sy'n craffu ar y byd gwleidyddol, a'i fod yn wasanaeth beiddgar sy'n cael ei gynhyrchu gan bobl ifanc i bobl ifanc."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?