S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

"Cenedl fach yn creu argraff ar lwyfan mawr" – Owen Evans yn dymuno'n dda i Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

23 Mawrth 2018

 Ychydig dros wythnos sydd bellach hyd nes bydd Tîm Cymru'n chwifio'r Ddraig Goch yng Ngemau'r Gymanwlad ar arfordir aur Awstralia.

Wrth ddymuno'n dda i'r athletwyr ar ddechrau'r ymgyrch 'Down Under' mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans yn dweud y byddan nhw'n ysbrydoliaeth iddo ef, ac i'r genedl.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C; "Ar ran pawb yn S4C, rwy'n dymuno pob lwc i bob aelod o dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Er mai cenedl fach ydym ni, ry' ni wedi profi droeon ein bod ni'n gallu creu argraff ar lwyfannau mawr – ac mi fydd pawb yma yng Nghymru yn eich cefnogi chi pob cam o'r ffordd!

"Ry' chi'n ysbrydoliaeth i mi ac ry' chi'n gosod yr esiampl berffaith i gefnogi neges y gyfres newydd FFIT Cymru sy'n dechrau ar S4C ym mis Ebrill - sef fod cymryd rhan mewn chwaraeon a dilyn bywyd ffit ac iach o fewn gafael pob un ohonom ni.

"Felly, pob lwc i chi gyd, a ry' ni'n edrych ymlaen at weld y ddraig goch yn chwifio'n falch yn Awstralia."

Yn digwydd yr un pryd â Gemau'r Gymanwlad mi fydd cyfres newydd sbon S4C FFIT Cymru yn annog y genedl i roi'r gorau i arferion drwg, a dilyn bywyd mwy heini ac iach bob dydd.

Yn y gyfres, sy'n dechrau ar nos Iau 10 Ebrill am 8.00, byddwn yn dilyn taith wyth wythnos pump o bobl i drawsnewid eu bywydau - gyda chymorth dietegydd, seicolegydd a hyfforddwr personol. Ac mi fydd y genedl gyfan yn cael cyfle i wneud yr un fath drwy ddilyn cynlluniau ymarfer corff a bwyta'n iach ar-lein.

Mae Owen Evans yn esbonio; "Neges FFIT Cymru yw bod gwneud newidiadau bychain i'n diet a'n harferion bob dydd, yn gallu cael effaith mawr ar ein lles a'n hiechyd.

"Drwy ddewis ffrwyth yn lle'r gacen, cerdded y grisiau yn lle camu i'r lifft, a drwy roi cynnig ar gamp neu chwaraeon newydd yng nghwmni ffrindiau a theulu - gallwn wneud wahaniaeth mawr i'n hiechyd a'n lles."

Mae mwy o wybodaeth am y gyfres ar gael ar wefan s4c.cymru/ffitcymru ac mae Chwaraeon Cymru ymhlith cefnogwyr y gyfres.

I weld neges Owen, ewch i: https://grabyo.com/g/v/JI0JezJv1Rj.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?