S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymateb i Adolygiad Annibynnol yr Adran Digidol Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon i S4C

29 Mawrth 2018

Mewn ymateb i gyhoeddi yr adolygiad dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones:

"Rydym yn falch iawn bod yr Adolygydd a’r Llywodraeth wedi cefnogi yn llawn yr angen i newid cylch gorchwyl S4C yn unol ag arferion gwylio cyfoes.

"Mae penderfyniad y Llywodraeth i ddileu’r toriadau a gyhoeddwyd fel rhan o adolygiad gwariant 2015 yn gam pwysig a fydd yn darparu sefydlogrwydd cyllidol i S4C dros y blynyddoedd sydd i ddod i’n helpu i wynebu’r heriau sylweddol sydd o’n blaenau.

"Rydym yn croesawu dymuniad y Llywodraeth i sicrhau sefydlogrwydd ariannol i S4C ar gyfer y tymor hir. O ystyried partneriaeth hir a gwerthfawr S4C gyda’r BBC, mae’n anochel y bydd yr argymhelliad y dylen ni dderbyn y cyfan o’n cyllid o incwm ffi’r drwydded yn un dadleuol. Yr her fydd i sicrhau tair egwyddor allweddol, sef cyllid sefydlog, annibyniaeth S4C a darpariaeth arian digonol.

"Yn gyffredinol, mae’r adolygiad yn dangos pa mor angenrheidiol i fywyd cyfoes Cymru a dyfodol yr iaith Gymraeg y mae S4C yn cael ei ystyried. Beth sy’n dod drosodd yn glir iawn yw’r dymuniad o bob cyfeiriad ar i S4C wneud mwy – mwy, o ran creu cynnwys digidol; mwy, o ran cyfrannu at gynnal a datblygu’r iaith a nifer ei siaradwyr; mwy, o ran partneru’n effeithiol gyda chyrff eraill mewn meysydd sy’n gorgyffwrdd. Yr her, wrth gwrs, yw gwneud hynny heb dynnu oddi ar gryfder y gwasanaeth presennol.

"Rydym yn diolch i Euryn Ogwen Williams am ei waith ar yr adolygiad hwn. Mae llawer o’i argymhellion yn cyd-redeg â ffrydiau gwaith mewnol sydd ar y gweill eisoes. Maent oll yn haeddu ein hystyriaeth ofalus. Fe fyddwn yn edrych ar fanylder yr adolygiad ac ymateb y Llywodraeth dros yr wythnosau nesaf cyn ymateb yn llawnach.

"Rydym yn diolch hefyd i Ysgrifennydd Gwladol DCMS, y Gweinidog Digidol, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru am eu cefnogaeth. Ond rydym yn falch iawn o gael symud ymlaen gyda’r newidiadau sydd eu hangen ar ein gwasanaethau yn awr er lles ein cynulleidfaoedd a’r iaith Gymraeg."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?