S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ‘Sgorio’ pedair blynedd arall o gemau pêl-droed byw

05 Mai 2018

Fe fydd S4C yn darlledu gemau byw pêl-droed am bedair blynedd pellach ar ôl sicrhau cytundeb darlledu newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

O dan y cytundeb newydd, bydd Sgorio yn dangos i fyny at 33 gêm ychwanegol bob tymor hyd at dymor 2021/22, gan gynnwys gemau o Uwch Gynghrair Cymru JD, Cwpan Cymru JD, Cwpan Gynghrair Nathaniel MG a’r Cwpan Irn-Bru.

Bydd gemau yn cael eu darlledu ar deledu ar S4C, ac ar-lein drwy wefan S4C, s4c.cymru, a’r tudalen Facebook Live Sgorio.

"Rydym yn falch iawn i barhau ein perthynas gyda’r Gymdeithas Bêl-droed ac Uwch Gynghrair Cymru JD ac i barhau i ddangos gemau clwb o’r lefel uchaf yng Nghymru," dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler.

"Mae darllediadau gwych Sgorio wrth galon ein darpariaeth chwaraeon ac mae’r gyfres yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddenu gwylwyr i’n sianel. Mae’r gemau sydd wedi cael eu darlledu ar-lein yn unig y tymor yma wedi bod yn ychwanegiad poblogaidd ymysg cefnogwyr y gynghrair, ac rydym yn obeithiol o weld y gynulleidfa yma yn tyfu dros y pedair blynedd nesaf."

Mae 630,000 o wylwyr ar draws y D.U. wedi tiwnio i mewn i Sgorio byw drwy’r teledu, tra bod 415,000 o sesiynau gwylio ar-lein wedi cael eu cofrestru ar S4C Clic, BBC iPlayer a’r dualen Facebook Live Sgorio.

Mae Sgorio, sy’n gonglfaen amserlen S4C ers 1988, yn darlledu gemau Uwch Gynghrair Cymru yn fyw ers 2008.

Yn ogystal â’r gemau byw, bydd S4C yn croesawu’r rhaglen cylchgrawn ganol wythnos, Mwy o Sgorio, yn ôl am gyfres arall y tymor nesaf.

Dywedodd Emyr Davies Uwch Gynhyrchydd Sgorio gyda chwmni Rondo Media: "Mae Rondo yn croesawu’r cyhoeddiad yma ac yn edrych ymlaen at barhau'r berthynas agos rhyngom a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Uwch Gynghrair Cymru JD ac S4C.

"Mae Rondo, drwy eu rhaglenni Sgorio, yn falch o fod yn rhan o ddatblygiadau cyffrous dros y degawd diwethaf o ran rhoi sylw teilwng i’n prif gynghrair genedlaethol a Chwpan Cymru gan sicrhau bod pob gôl o bob gêm i’w gweld ar amryw o blatfformau. Rydym yn wir yn edrych ymlaen ac yn benderfynol o sicrhau datblygiadau cyffrous pellach yn ystod cyfnod y cytundeb nesaf.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Osian Roberts: "Fel rhywun sydd wedi chwarae a bod yn rheolwr ar y lefel ddomestig yng Nghymru, rydw i’n deall y pwysigrwydd o ddarlledu’r gemau a faint mae hynny’n cael ei werthfawrogi.

"Dros y blynyddoedd, mae’r safonau ar y cae ac oddi arno wedi gwella a datblygu’n aruthrol ac mae ansawdd darllediadau S4C a Sgorio yn adlewyrchu hynny. Mae darlledu’r lefel yma o bêl-droed yn hollbwysig wrth barhau datblygiad y gêm yng Nghymru."

Dywedodd Prif Weithredwr CPDC, Jonathan Ford: "Mae’r Gymdeithas yn hynod o falch o gael ymestyn ein cytundeb pêl-droed domestig gyda S4C. Rydym wedi mwynhau perthynas wych gyda nhw dros y blynyddoedd.

"Mae’r sylw maen nhw’n rhoi i bêl-droed Cymru yn yn heb ei ail ac mae hynny’n sicr wedi helpu codi ymwybyddiaeth a phroffil y gêm. Rydym yn edrych ymlaen at bedair blynedd arall o ddarllediadau gwych a’u hymrwymiad llwyr i’r gêm yng Nghymru."

Y gêm fyw nesaf Sgorio fydd Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD, rhwng Aberystwyth a Chei Connah, ym Marc Latham, stadiwm CPD Y Drenewydd, ar ddydd Sul. Bydd y rhaglen yn cychwyn am 2.15.

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd:

• Mae cyfanswm o 630,000 o bobl wedi tiwnio i mewn i wylio gemau byw Sgorio drwy’r sianel deledu'r tymor yma hyd yma (Awst ’17 - Ebrlll ’18 - heb gynnwys gemau ail-gyfle Uwch Gynghrair Cymru a rownd derfynol Cwpan Cymru JD). Mae hyn yn cynnwys gemau o Uwch Gynghrair Cymru JD, Cwpan Cymru JD, Cwpan Gynghrair Nathaniel MG a’r Cwpan Irn-Bru.

• Yn ogystal â’r rhai sy’n gwylio drwy’r teledu, roedd bron i 415,000 sesiwn wylio ar-lein (gan gynnwys gwylio byw neu ar-alw drwy S4C Clic, BBC iPlayer neu Facebook Live).

Roedd ychydig dros 150,000 sesiwn wylio yn ystod y gemau ar-lein yn unig , a dros 260,000 ar gemau oedd hefyd yn cael eu dangos ar deledu.

• Yn ogystal â’r gemau byw, roedd cynnwys ffurf gryno yn boblogaidd ymysg gwylwyr, gyda fideos Sgorio yn cael eu gwylio dros 2.5 miliwn o weithiau ar Facebook yn unig (data ddim yn cynnwys Twitter nac Youtube) dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill ’17 i Maw ’18). Mae’r fideos yn cynnwys uchafbwyntiau gemau, clipiau o goliau, neu gynnwys ffurf gryno yn cynnwys ffigyrau byd pêl-droed (gan gynnwys Lee Trundle, Ben Davies, Joe Allen, Ethan Ampadu, David Brooks i enwi ond rhai).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?