S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwyl gyda'r gerddorfa i ddathlu pen-blwydd Cyw yn 10 oed

08 Mai 2018

Mae tocynnau wedi mynd ar werth ar gyfer pedair cyngerdd hwyliog i blant sy'n dathlu pen-blwydd gwasanaeth plant S4C, Cyw, yn 10 oed.

Yr haf yma, bydd cyfres o gyngherddau arbennig yn addas i blant meithrin a theuluoedd ifanc yn cael eu cynnal fel rhan o wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol (4-11 Awst) yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a llu o gymeriadau poblogaidd Cyw yn serennu wrth iddyn nhw berfformio trefniadau cerddorfaol lliwgar o ganeuon a hwiangerddi plant poblogaidd.

Cynhelir y cyngherddau plant 45 munud 'Cyw a'i Gerddorfa' ddydd Llun, 6 Awst am 13.30 a 15.30 a dydd Mawrth, 7 Awst am 13.30 a 15.30 (bydd cyngerdd ddydd Mawrth, 15.30, yn sioe hamddenol).

Bydd cyngherddau ddydd Llun yn cael eu ffilmio ac yn cael eu darlledu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar S4C.

Bydd y gyngerdd hamddenol ddydd Mawrth am 15.30 yn addas i blant sydd ag awtistiaeth, namau synhwyraidd a chyfathrebu ac anableddau dysgu, yn ogystal ag unigolion sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall ac yn rhannol ddall.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 90 eleni, yn addo sioe yn llawn hwyl a hud. Ymysg y cymeriadau Cyw sy'n cymryd rhan mae Tref a Tryst, Dona Direidi, Ben Dant, Radli Miggins, Deian a Loli, yn ogystal â'r cyflwynwyr Huw ac Elin.

Dywedodd Michael Garvey, Cyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, "Rydw i wrth fy modd bod y Gerddorfa yn cyd-weithio gydag S4C i gyflwyno cerddoriaeth gerddorfaol i genhedlaeth newydd o ddilynwyr cerddoriaeth fel rhan o ddigwyddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mae Caerdydd. Dyma'r tro cyntaf inni gyflwyno cyngherddau ar gyfer y grŵp oed yma ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu teuluoedd i'n cartref yn Neuadd Hoddinott y BBC, am hwyl ac antur gyda Cyw a'i ffrindiau."

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Rhaglenni Plant S4C, "Rydym wrth ein bodd o gael cyhoeddi'r gyfres hon o gyngherddau cerddorfaol hwyliog i blant ifanc yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n rhan bwysig o ddathliadau pen-blwydd Cyw yn 10 oed ac ni allaf feddwl am ffordd well o fwynhau'r pen-blwydd nag yng nghwmni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC."

Mae prisiau'r tocynnau rhwng £5 a £8.00 ac ar gael ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru, https://www.wmc.org.uk/WhatsOn/eisteddfod/ neu drwy ffonio, 0845 4090 800 (bydd galwadau'n costio hyd at 5c y funud, ynghyd â chostau mynediad eich cwmni ffôn. Cysylltwch â'ch darparwyr gwasanaeth am wybodaeth cost galwadau os yn ddefnyddwyr ffonau symudol, neu os nad yn gwsmer BT).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?