S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Junior Eurovision Song Contest: Mae'r Cymry ar eu ffordd!

10 Mai 2018

- Chwilio am sêr 9-14 oed i ganu dros Gymru yn y Junior Eurovision Song Contest.

- Cyfle unigryw i berfformio o flaen cynulleidfa o filiynau ar draws Ewrop a thu hwnt.

Yn 2018, am y tro cyntaf erioed, mi fydd Cymru yn cystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest – ac mae cyfle i sêr ifanc ganu dros Gymru ar lwyfan ENFAWR y gystadleuaeth ym Minsk, Belarws ym mis Tachwedd.

Mae S4C, a'r cwmni cynhyrchu Rondo Media, heddiw (10 Mai 2018) wedi dechrau'r daith i ddod o hyd i berfformwyr ifanc i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth nad oes ei thebyg! Mae'r ceisiadau yn cael eu gwahodd drwy'r wefan s4c.cymru/junioreurovision er mwyn cofrestru ar gyfer cyfres o glyweliadau ym mis Mehefin.

Yn Ewrop, does yr un sioe sy'n cymharu a'r Eurovision Song Contest, sy'n cael ei chynnal y penwythnos hwn yn Lisbon, Portugal. Mae'r chwaer gystadleuaeth i berfformwyr ifanc 9-14 oed yn gynhyrchiad yr un mor uchelgeisiol, ac yn denu sylw o bob cornel o Ewrop a thu hwnt. Mae miloedd o bobl yn dod i wylio'r gystadleuaeth yn fyw, ac mae miliynau yn rhagor yn gwylio ar deledu mewn degau o wledydd. Cafodd y gystadleuaeth yn 2017 ei gwylio gan filiynau o bobl mewn 15 gwlad.

Eleni, mi fydd y Junior Eurovision Song Contest yn cael ei dangos yn fyw ar S4C, ar brynhawn Sul 25 Tachwedd. Cyn hynny, bydd tair rhaglen yn yr hydref yn ein tywys drwy'r daith o ddod o hyd i sêr ifanc, gyda chyfle i'r cyhoedd ddewis eu ffefryn i deithio i Minsk.

Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno'r gyfres, ac yn gwmni iddo bydd tri mentor profiadol Connie Fisher, Tara Bethan a Stifyn Parri, a fydd yn gymorth i'r cantorion ifanc baratoi ar gyfer y dasg.

Meddai Trystan Ellis-Morris, "Ar flwyddyn gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth, 'da ni eisiau creu argraff fawr. Y llynedd roedd 16 o wledydd yn cystadlu yn y Junior Eurovision Song Contest, ac mae mwy eto wedi cofrestru ar gyfer y llwyfan eleni. Felly, mi fyddwn yn taflu'r rhwyd yn eang er mwyn chwilio am y talent gorau posib. Da' ni isho gweld y gorau o blith y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig!"

O ystyried traddodiad cerddorol Cymru, does dim amheuaeth nad oes digon o dalent ymhlith sêr ifanc Cymru, ac mae hwn yn gyfle i berfformio ar lwyfan sydd y tu hwnt i unrhyw ddigwyddiad yng Nghymru. Cymraeg fydd iaith y gân fydd yn cael ei chanu yn y gystadleuaeth, ond does dim rhaid i'r perfformiwr fod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae hwn yn gyfle sy'n agored i holl bobl ifanc Cymru; perfformwyr unigol neu grwpiau o hyd at chwech.

"Alla i ddim peidio a chynhyrfu wrth feddwl am y cyfle anhygoel sydd ar gael i'n pobl ifanc ni i ganu dros Gymru yn y Junior Eurovision Song Contest," meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C.

"'Da ni'n ofnadwy o falch ein bod ni'n rhoi'r cyfle i brofi perfformio ar lwyfan nad oes tebyg iddi yng Nghymru na Phrydain. Mae hwn yn fwy na'r X-Factor, mae'n fwy na Britain's Got Talent, mae'n fwy na'r Eisteddfod Genedlaethol hyd yn oed! Ym mis Tachwedd, mi fydd llygaid Ewrop wedi eu hoelio ar Minsk, ac yno yn ei chanol mi fydd Cymru, y Ddraig Goch a'r iaith Gymraeg. Mae hynny yn destun balchder mawr i mi ac i S4C."

Mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am 10.00 o'r gloch nos Sul 3 Mehefin 2018. Mae gwybodaeth lawn am y rheolau a sut i ymgeisio ar gael ar-lein ar s4c.cymru/junioreurovision

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Mae'r Junior Eurovision Song Contest yn rhan o deulu o gystadlaethau’r Eurovision sy'n cael eu cynnal gan yr European Broadcasting Union (EBU). Mae'n cynnwys y brif gystadleuaeth, yr Eurovision Song Contest, a'r Eurovision Choir of the Year a gafodd ei chynnal am y tro cyntaf y llynedd yn Riga, Latvia. Bu'r côr Merched Sir Gâr yn cystadlu ar ran Cymru, ac roedd y gystadleuaeth yn fyw ar S4C. Roedd y côr wedi cael eu dewis i gystadlu ar ôl dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru ym mis Ebrill 2017. Cystadleuaeth eraill sy'n rhan o deulu Eurovision yw: Eurovision Young Musicians, Eurovision Young Dancers, Eurovision Dance Contest a Eurovision Asia Song Contest.

Mae'n rhaid i bob gwlad ddewis y perfformiwr ar gyfer y gystadleuaeth fel rhan o raglen deledu. Bydd cynrychiolydd Cymru yn cael ei ddewis mewn cyfres dair rhan ar S4C sy'n cynnwys rhaglen fyw ble bydd chwech perfformiad yn cystadlu am bleidlais y gwylwyr.

Mae'r Junior Eurovision Song Contest yn cael ei chynnal am y 16eg tro eleni. Roedd y cyntaf wedi ei chynnal yn Copenhagen yn 2003. Y llynedd, roedd y gystadleuaeth yn Tbilisi, Georgia, a'r buddugwyr oedd Rwsia gyda'r gantores Polina Bogusevich yn canu'r gân 'Wings'. Cafodd y gystadleuaeth ei gwylio gan 2.6 miliwn o bobl ar draws Ewrop.

Yn wahanol i'r Eurovision Song Contest, does dim rhaid i'r wlad fuddugol gynnal y gystadleuaeth y flwyddyn ganlynol. Dewiswyd Minsk, Belarws ar gyfer cynnal cystadleuaeth 2018 er gwaetha'r ffaith mae Rwsia oedd yn fuddugol. Ers 2015, mae aelodau'r EBU wedi cael eu gwahodd i ymgeisio am yr hawl i gynnal y Junior Eurovision Song Contest.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?