S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Uchafbwyntiau taith haf rygbi Cymru ar S4C

16 Mai 2018

Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau estynedig o bob gêm yn ystod taith rygbi Cymru ar gyfandir America yn yr haf.

Bydd Cymru yn wynebu De Affrica ym mhrifddinas yr UDA, Washington DC ar 2 Mehefin, cyn teithio i’r Ariannin er mwyn chwarae dwy gêm yn erbyn y Pumas ar 9 a 16 Mehefin.

Bydd uchafbwyntiau’r tair gêm a’r holl ddadansoddi ar gael y diwrnod canlynol yn y Gymraeg ar S4C. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu’r darllediad ar gyfer S4C.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Rydym yn falch iawn o ddangos uchafbwyntiau gemau Cymru yn ystod taith yr Haf.

"Mae Cymru wedi enwi carfan gyffrous ac mi fyddwn yn edrych ymlaen at weld y chwaraewyr ar eu gorau yn erbyn gwrthwynebwyr o’r safon uchaf.

"Ry’ ni’n gobeithio y bydd cefnogwyr rygbi yn mwynhau ein huchafbwyntiau o’r daith drwy gyfrwng y Gymraeg."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?