S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dathlu llwyddiant gydag ail gyfle i weld cyfres ddrama boblogaidd

15 Mehefin 2018

Mae S4C yn dathlu llwyddiant cyd-gomisiwn S4C a BBC Cymru wrth i BBC 1 rhwydwaith gyhoeddi eu bod am ddarlledu’r gyfres ddrama boblogaidd Un Bore Mercher / Keeping Faith.

Wedi'i datblygu gan S4C, a’i chyd-gomisiynu gyda BBC Wales, cafodd y ddrama sydd wedi cyfareddu gwylwyr ledled y DG ei dangos gyntaf ar S4C ym mis Tachwedd 2017.

Nawr, mae'r sianel yn cynnig cyfle arall i weld y gyfres yn yr iaith Gymraeg, gydag isdeitlau, ar y teledu ac ar alw.

O ddydd Llun 18 Mehefin, bydd y gyfres wyth rhan yn cael ei ddangos bob nos Lun a nos Fercher am 11:00pm a bydd pob pennod ar gael i’w wylio am ddim ar wasanaeth ar alw S4C ac ar BBC iPlayer.

Wedi’i ffilmio cefn wrth gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae'r ddrama’n adrodd hanes Faith (Eve Myles) cyfreithiwr, gwraig a mam, a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr, Evan, sy’n cael ei chwarae gan ŵr go iawn Eve Myles, Bradley Freegard.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych nid yn unig i S4C ond hefyd i wylwyr ledled y Deyrnas Gyfunol. Rydym yn hynod falch bod cynhyrchiad ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru yn cael ei ddangos ar BBC 1 rhwydwaith am y tro cyntaf erioed ac mae'n dyst i beth sy'n bosibl pan ddaw dau ddarlledwr cenedlaethol at ei gilydd i greu pethau gwych. Mae Un Bore Mercher yn tywys y gwylwyr ar daith emosiynol o gariad, cyfrinachau a chelwyddau ac mae eisoes wedi dal dychymyg cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Nawr, bydd llawer mwy yn cael y cyfle i fynd ar y daith honno.”

Yng Ngŵyl y Gelli 2018, cynhaliwyd sesiwn i drafod llwyddiant y gyfres gyda'r awdur Mathew Hall ac Eve Myles. Yn ystod y sesiwn o flaen pabell dan ei sang, talodd Eve Myles deyrnged i’r ffydd oedd gan S4C yn y gyfres o'r dechrau. Dywedodd Eve Myles: “Oni bai am S4C, ni fyddai Keeping Faith wedi cael ei wneud. Pa mor ffodus ydym ni o gael creu’r sioe mewn dwy iaith.”

Mae’r ddrama'n waith ar y cyd rhwng yr awduron Matthew Hall (Kavanagh QC) ac Anwen Huws (Gwaith Cartref, Pobol y Cwm). Cafodd y gyfres ei ffilmio ar leoliad ym Mro Morgannwg ac yn Sir Gaerfyrddin. Ymhlith y cast mae actorion poblogaidd yn cynnwys Matthew Gravelle (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Broadchurch), Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, Stella, National Treasure) ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland).

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?