S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi’r diwedd i blastig yn S4C

02 Gorffennaf 2018

Mae S4C yn cyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i blastig un-defnydd yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghaernarfon.

I gyd fynd a’r cyhoeddiad, bydd wythnos arbennig ar S4C i drafod ac yn annog sgwrs am ailgylchu ac ailddefnyddio plastig er mwyn yr amgylchedd.

Meddai Prif Weithredwr S4C Owen Evans bod y cyhoeddiad yn “dangos fod S4C yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at fywyd gwyllt y môr o ddifri.”

Mae’r wythnos yn cyd-fynd â thaith Mari Huws, gwneuthurwr ffilm ifanc o Ddyffryn Nantlle, sydd ar hyn o bryd ar fordaith 12 diwrnod yn y Môr Arctig er mwyn ymchwilio i wir effaith llygredd plastig yn yr ardal. Bydd Mari’n paratoi ffilm fer Arctig: Môr o Blastig ar gyfer gwasanaeth Hansh S4C fydd yn cael ei rhyddhau ym mis Awst.

Dydd Mercher 4 Gorffennaf, bydd Mari hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yn fyw o fwrdd y llong pan fydd hi’n cael y cyfle i gyflwyno darganfyddiadau’r fordaith ger bron Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Cyn dechrau ar ei thaith i’r Arctig, meddai Mari Huws: “Dwi’n edrych ymlaen at weld rhan o’r byd do’n i’m yn meddwl y byswn i’n cael cyfle i’w weld ond dwi hefyd yn bryderus am beth fyddwn ni’n ei ddarganfod. Y nod yn y pen draw yw cael pobl i fod yn fwy ymwybodol o’r plastig maen nhw’n ei ddefnyddio a sut fathau o blastig sy’n hawdd i’w osgoi. Ond mae pethau y gall gwleidyddion ei wneud i atal cwmnïau rhag gor-ddefnyddio plastig hefyd.

“Mae’r sefyllfa yn un ddifrifol iawn. Mae oddeutu wyth miliwn o ddarnau o blastig yn mynd i mewn i’r moroedd bob dydd ac mae astudiaeth ddiweddar yn amcangyfrif bod 90% o adar môr yn cario tua 10% o bwysau eu corff mewn plastigion. Dim ond rŵan mae gwir raddfa’r broblem yn dod yn amlwg ac mae’n rhaid gweithredu cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Ar nos Sul 8 Gorffennaf, bydd rhaglen Bleddyn Môn a'r Ras Cefnfor Volvo yn dilyn hwyliwr o Ynys Môn ar un o rasys hwylio mwya’r byd, gan roi sylw haeddiannol i’r holl lygredd plastig mae o wedi ei weld ar hyd y ffordd. Bydd rhaglen Ffermio nos Lun 2 Gorffennaf hefyd yn trafod effaith plastig ar gefn gwlad a sut mae amaethwyr Cymru yn ceisio lleihau eu defnydd ohono. Yn ogystal, bydd rhaglenni Heno a Prynhawn Da yn cynnwys cyfres o eitemau trwy gydol yr wythnos gyda tips i helpu pawb gartre’ i ailgylchu eu plastig yn well.

Meddai Prif Weithredwr S4C Owen Evans: “Rydym oll wedi gweld y lluniau diweddar yn dangos yr effaith mae plastig un-defnydd yn cael ar yr amgylchedd yn gyffredinol a’r môr yn arbennig. Mae rheidrwydd arnom i gyd i gymryd camau rhagweithiol i leihau ein defnydd o blastig. Felly o hyn allan ni fydd S4C yn defnyddio cwpanau plastig na styrofoam, cyllell a ffyrc na phecynnau bwyd wedi eu gwneud o blastig. Cam bach yw hwn, ond mae’n dangos fod S4C yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at fywyd gwyllt y môr o ddifri.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?