S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Paratowch am barti gyda hoff aderyn Cymru!

03 Gorffennaf 2018

Mae ysgolion cynradd a grwpiau meithrin ledled Cymru yn paratoi ar gyfer parti pen-blwydd mawr, lliwgar wrth i wasanaeth plant S4C, Cyw, ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed.

Mae'r sianel deledu wedi anfon pecynnau parti lliwgar i bob ysgol gynradd a grŵp meithrin yng Nghymru, gyda gwahoddiad i'r parti ddydd Iau, 5 Gorffennaf.

Hefyd, bydd o leiaf 50 o ysgolion a grwpiau meithrin y wlad yn cael ymweliad syrpreis gan gymeriadau poblogaidd Cyw.

Mae'r pecyn parti yn cynnwys gwahoddiadau parti, addurniadau ar gyfer cacennau bach, baneri pen-blwydd, llyfryn o weithgareddau hwyliog i bob plentyn a phoster parti Cyw lliwgar A3 gyda geirfa a syniadau ar gyfer gweithgareddau ychwanegol.

Ynghyd â'r pecyn parti mae Cynllun Gwaith addysgol wedi ei lunio ar gyfer plant oed meithrin a disgyblion blynyddoedd cynnar ysgolion cynradd.

Wedi'i gomisiynu gan S4C a'i greu a'i ddylunio gan gwmni adnoddau addysgol Canolfan Peniarth o Gaerfyrddin, mae'r pecyn addysgol ar gael ar-lein ar s4c.cymru/cyw ar gyfer athrawon cynradd Cymraeg a Saesneg ac arweinwyr grwpiau meithrin ledled Cymru.

Cafodd y pecyn hwyliog ei lunio i gyd-fynd â Fframwaith Proffil Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar y cwricwlwm ac mae'n llawn gweithgareddau gwreiddiol a pherthnasol. Mae cynllun gwaith S4C Cyw yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan annog disgyblion ifanc i weithio'n annibynnol a datblygu creadigrwydd. Yn ogystal â'r cynllun gwaith, mae taflenni gweithgareddau ar gael ar ffurf PDF ar y we.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, rhaglenni plant, Sioned Wyn Roberts, "Rydym yn gobeithio y bydd llawer o ysgolion yn dathlu pen-blwydd Cyw ar 5 Gorffennaf.

Rydym wedi cael ymateb gwych gan ysgolion i'r pecyn pen-blwydd a'r Cynllun Gwaith addysgol. Mae'n hufen ar y gacen."

Dywedodd Kiri Thomas, athrawes yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin, "Mae cryn dipyn o gyffro wedi bod yn yr ysgol ers i'r pecyn adnoddau gyrraedd - yn enwedig gan fod Cyw wedi anfon gwahoddiad personol i'r holl blant, a gan fod y gwahoddiadau wedi cael eu hanfon i’w cartrefi, mae wedi codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dathliad ymhlith rhieni.

"Mae'r plant wedi cyffroi’n llwyr - ac maen nhw wrthi’n creu cardiau a gwneud addurniadau. Maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr iawn at 5 Gorffennaf."

Bydd dathliadau pellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym mis Awst pan fydd Cyw yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer gwledd o gerddoriaeth glasurol yn Neuadd Hoddinnot Y BBC, Canolfan y Mileniwm.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?