S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croesawu tri phenodiad newydd i fwrdd awdurdod S4C

16 Gorffennaf 2018

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi croesawu tri aelod newydd i fwrdd awdurdod S4C gan ddweud y bydd eu profiad a'u harbenigedd yn gaffaeliad i'r sianel ar gyfnod cyffrous o newid yn hanes y darlledwr.

Mae gan y tri aelod newydd, Owen Derbyshire, Anita George a Rhodri Williams brofiad helaeth ym maes y cyfryngau, busnes a llywodraethiant corfforaethol.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, "Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol am benodiad tri aelod newydd i Awdurdod S4C. Bydd Anita, Owen a Rhodri yn dod ag ystod eang o brofiad a thalent i'r Bwrdd a fydd o fudd mawr i waith S4C wrth i argymhellion yr Adolygiad annibynnol gael eu gweithredu ac wrth i ni afael yn y cyfleoedd sydd o'n blaenau."

Cyhoeddwyd y tri phenodiad y bore yma (dydd Llun, 16 Gorffennaf) gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Dyma linc i ddatganiad llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/news/s4c-new-appointments.cy

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?