S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi cynnydd mewn cyrhaeddiad yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig

17 Gorffennaf 2018

 Mae cyrhaeddiad gwylwyr S4C wedi cynyddu flwyddyn-ar-flwyddyn yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn 2017/2018, gyda'r cyrhaeddiad ar ei uchaf yn y DU ers 2004, datgela adroddiad blynyddol y sianel.

Mae Adroddiad Blynyddol 2017/18 a gyhoeddir heddiw (Mawrth, 17 Gorffennaf) hefyd yn dangos cynnydd arwyddocaol yn y gwylio ar draws pob llwyfan, gyda'r llwyfan ffurf fer newydd ar-lein Hansh, wedi ei anelu'n bennaf at y grŵp oedran 18-34, yn denu 4.9 miliwn o sesiynau gwylio ar-lein, gan gyfrannu at gyfanswm o 45 miliwn o sesiynau gwylio ar gyfer holl raglenni a chynnwys S4C a gwasanaethau ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer a'r cyfryngau cymdeithasol.

"Ar deledu'n gyffredinol, mae hon wedi bod yn flwyddyn dda. Mae gwylio cynnwys S4C wedi cynyddu'n sylweddol - yng Nghymru, lle'r oedd i fyny 5%, a hefyd ar draws y DU, lle cafwyd cynnydd o 12%," meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C. "Gwelwyd gostyngiad bychan mewn gwylio gan siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond mae'r ffigwr hwnnw'n sefydlog dros gyfnod o bedair blynedd, ac o gymryd defnydd ar-lein i ystyriaeth, mae'n debygol fod defnydd cyffredinol o'n gwasanaethau gan siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd wedi bod ar i fyny."

Dywed Huw Jones ei bod hi'n hynod galonogol bod rhaglenni ar draws pob genre wedi cyfrannu at y cyfanswm o 690,000 o bobl yn gwylio S4C ar deledu bob wythnos a'r cynnydd o 7% flwyddyn-ar-flwyddyn mewn gwylio ar-lein.

Maen nhw'n cynnwys cyfresi cyffrous newydd fel Cynefin, darlledu gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru ac ail lansio llwyddiannus o gyfresi bytholwyrdd fel Cefn Gwlad a Dechrau Canu Dechrau Canmol. Mae llwyddiannau mawr eraill yn cynnwys y cyd-gynyrchiadau drama gyda BBC Cymru, Un Bore Mercher/Keeping Faith a Craith/Hidden, gafodd eu darlledu'n gyntaf ar S4C a denu cynulleidfaoedd mawr a chanmoliaeth uchel wrth gael eu darlledu ar rwydwaith Prydeinig a chyfresi drama fel Bang a Byw Celwydd a werthwyd i farchnadoedd rhyngwladol.

Gwnaeth amserlen fwy deinamig a gafaelgar arwain at gynnydd o 12% mewn cyrhaeddiad ymysg un o ddemograffeg fwyaf allweddol y sianel, gwylwyr 45-64 oed, yn ôl Prif Weithredwr S4C.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, "Hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan y Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol Amanda Rees a'i thîm, yn ogystal â'n myrdd o bartneriaid cynhyrchu, o ran datblygu ein rhaglenni, treialu fformatau ac amserlenni newydd, a rhoi bywyd newydd i rai o'n rhaglenni mwy sefydledig, a hyn oll yn wyneb cyllidebau sy'n lleihau a disgwyliadau uwch gan y gynulleidfa. Rwyf wedi gosod y nod o sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynnwys gwych, llwyfannau dosbarthu hyblyg a marchnata greddfol yn y dyfodol."

Mae Owen Evans a Huw Jones ill dau'n cytuno bod y cynnydd mewn gwylio ar-lein ymysg gwylwyr 18-34 oed yn arwyddocaol.

Dywed Huw Jones, "Un achos arbennig i'w ddathlu oedd lansiad llwyddiannus Hansh, ein brand arbennig ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn wedi caniatáu datblygu arddull newydd a dull newydd o ymwneud â'r gynulleidfa o fewn ein cynnwys - ar y teledu ac ar gyfer deunydd digidol penodol. Mae darparu deunydd deniadol ar gyfer siaradwyr Cymraeg ifanc, yn yr oed hwnnw pan maen nhw'n gwneud penderfyniadau greddfol ynglŷn â'u defnydd iaith personol, yn eithriadol o bwysig ar gyfer datblygiad yr iaith."

Mae'r gwasanaeth yn adlewyrchu ymroddiad y sianel i ddatblygu cynnwys ar gyfer amrediad cynyddol o lwyfannau digidol ac mae Awdurdod S4C wedi cytuno i neilltuo £3 miliwn i ddatblygu gwasanaethau data a phersonoleiddio ym mhencadlys newydd S4C sy'n agor yng Nghaerfyrddin yn yr hydref.

Fe fydd Owen Evans yn arwain ar ddatblygiad y gwasanaethau digidol gyda'r nod o gefnogi ein dyfodol "fel Darparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn hytrach na dim ond Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus."

Eglura Owen Evans, "Dyna pam yr ydym wedi cyhoeddi buddsoddiad o £3 miliwn yn y technolegau a'r cynnwys a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth mwy personol i'n gwylwyr. Bydd hyn yn golygu y gallwn adeiladu ein perthynas â'r gynulleidfa, a hynny o fod yn berthynas un i filoedd i fod yn brofiad sy'n nes at berthynas un i un."

Darllenwch yr adroddiad yma 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?