S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Geraint y Crys Melyn! S4C yn ymestyn darllediad Tour de France – a fydd Cymru’n troi’n felyn ddydd Sul?

27 Gorffennaf 2018

“Mae hi’n anodd rhoi mewn geiriau sut bydd ennill Tour de France yn newid bywyd Geraint Thomas,” yn ôl cyflwynydd cyfres Seiclo S4C, Rhodri Gomer.

Mae Cymru gyfan yn ysu i weld y gwr o Gaerdydd yn gwibio drwy gymalau olaf ras seiclo enwoca’r byd Le Tour de France.

Mi fydd diwrnod mawr ola’r ras i’w weld yn llawn ar S4C, gan gynnwys seremoni’r podiwm, wrth i’r sianel gyhoeddi ei bod wedi ymestyn ei darllediad byw ar gyfer dydd Sul 29 Awst, er mwyn dechrau am 3.00 y prynhawn – yn fyw ar deledu, ar S4C Clic a Facebook Live.

O’r Pyreneau i Baris, S4C sydd wedi dilyn llwyddiant Geraint ers 2014 wrth iddo wibio heibio cymalau rhwng môr a mynydd gyda Thim Sky. Ar ôl blynyddoedd o weithio’n galed i’r tîm, a gweld ei gyd aelodau’n dod i’r brig, eleni yw blwyddyn Geraint ar y blaen, a gobeithio y gwelwn ni Gymru gyfan yn troi’n felyn ddydd Sul.

Y cyflwynydd, Rhodri Gomer a thîm sylwebu’r rhaglen Seiclo, sydd wedi adrodd holl hanes y ras eiconig yn y rhaglenni byw ac uchafbwyntiau dyddiol ar S4C, sydd wedi cynnwys cyfweliadau ecsgliwsif gyda Geraint Thomas ar hyd y daith.

“Gwrddes i a Geraint wythnos cyn y daith i ddymuno pob lwc iddo, edrychodd arna’i gan wenu. O’r dechrau hyderus yna, dwi’n credu bod Geraint lan yno fel ffefryn i ennill. Ers hynny, dyw e ddim wedi rhoi un troed o chwith ac wedi cadw ar ei feic a reidio’n berffaith.

“Dwi’n rhagweld ac yn ffyddiog y bydd yn goroesi ar y blaen tan ddydd Sul,” meddai Rhodri, gyda’i fysedd wedi croesi!

Aeth Rhodri ymlaen i ddweud, “Mae’n anodd rhoi mewn geiriau beth fydd ennill y ras yma yn ei olygu i Geraint ac i Gymru. Dyma fydd y camp fwyaf erioed i unrhyw athletwr o Gymru.”

Gydag ond ras fynydd heddiw, i’w ddilyn gan ras yn erbyn y cloc a’r cymal i’r llinell derfyn ym Mharis yn weddill, mi fydd S4C yno i ddarlledu pob cam o’r daith.

diwedd

Nodiadau:

Seiclo: Le Tour de France

Cymalau Byw yn y prynhawn ac uchafbwyntiau gyda’r nos – bob dydd tan y terfyn

Rhaglen fyw estynedig brynhawn Sul am 3.00

Ar gael ar S4C ac ar-lein ar S4C Clic, BBC iPlayer, Facebook Live a llwyfannau eraill

Cyd-gynhyrchiad Sunset+Vine Cymru a Tinopolis ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?