S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C ac all3media international yn cyhoeddi partneriaeth

31 Gorffennaf 2018

Mae’r darlledwr S4C a’r dosbarthwr annibynnol all3media international wedi cyhoeddi menter newydd a fydd yn golygu y bydd y ddau gwmni’n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a dosbarthu rhaglenni gydag apêl fyd-eang.

Yn sgil y cytundeb, bydd all3media international a S4C, neu eu cyflenwyr, yn datblygu o leiaf un fformat, tra bydd un fformat all3media international yn cael ei dewis i'w haddasu ar gyfer S4C.

Bydd all3media international yn gweithio gydag S4C, a'i chyflenwyr cynhyrchu allweddol, gan rannu arbenigedd ar dueddiadau'r farchnad a photensial datblygu prosiectau.

Y nod yw datblygu drama ar gyfer y farchnad fyd-eang er budd y ddau gwmni, gan gydweithio ar gyd-ariannu lle bo hynny'n briodol, a hefyd i weithio gyda'i gilydd yn y broses o gyd-ariannu a datblygu fformatau sydd heb eu sgriptio.

Mae all3media international wedi mwynhau cryn lwyddiant yn y farchnad fyd-eang wrth gydweithio ar gyfresi sydd wedi eu sgriptio a’u cynhyrchu ar gyfer S4C – ac roedd y cwmni wrth galon y gwaith o droi'r ddrama ditectif Y Gwyll/Hinterland, cynhyrchiad Fiction Factory Films ar gyfer S4C, ar y cyd â Tinopolis, all3media international a BBC Cymru, yn frand o bwys.

Mae'r ddrama, a redodd am dair cyfres, wedi derbyn clod anferthol ym mhedwar ban byd.

Mae’r ddau gwmni hefyd wedi bod ynghlwm â lansiad diweddar y gyfres Craith/Hidden, cynhyrchiad Severn Screen ar gyfer S4C, BBC Cymru a BBC Four, sydd wedi cael Dangosiadau Swyddogol yn Content London a Berlinale, a’i dangos yng Ngŵyl Deledu Monte Carlo trwy law all3media international.

Mae'r ddwy gyfres wedi cael eu gwerthu yn Ewrop, Asia Môr Tawel a Gogledd America.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, “Bydd y fenter hon yn cynnig manteision mawr i S4C a bydd yn rhoi llwybr i farchnadoedd i'n cyflenwyr, gan hefyd ddarparu prawf o gysyniad i all3media international. Rydym wedi cydweithio’n llwyddiannus gydag all3media international yn y gorffennol ac rydym yn edrych ymlaen at berthynas ffurfiol a fydd yn golygu darparu cynnwys Cymraeg o safon i gynulleidfa ehangach a chynnig fformatau newydd a chyffrous i'n gwylwyr.”

Dywedodd Rachel Glaister, EVP Brands yn all3media international, "Rydym yn falch iawn o gryfhau ein perthynas gyda'r tîm yn S4C trwy'r bartneriaeth newydd hon a fydd yn ein galluogi i ehangu ar ein cydweithredu a datblygu brandiau sydd wedi eu sgriptio ac sydd heb eu sgriptio.

“Rydym yn hynod falch bod y brand "Welsh Noir" wedi hen ennill ei blwyf ar y map cynnwys byd-eang; mae'r genre yn un sy’n annwyl i gefnogwyr y genre mewn gwledydd mor amrywiol â Gwlad yr Iâ, Japan, Awstralia a’r Unol Daleithiau - felly rydym wrth ein boddau wrth gael y cyfle hwn i weithio gyda mwy o'r dalent o Gymru y mae S4C yn ei chomisiynu.”

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?