S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged S4C i gyn aelod Awdurdod y Sianel

01 Awst 2018

Mae Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C wedi talu teyrnged i gyn aelod Awdurdod y Sianel.

Bu’r Parchedig Ddr. Alwyn Roberts ar Fwrdd Llywodraethwyr y BBC ac yn Gadeirydd y Cyngor Darlledu yng Nghymru cyn cynrychioli’r BBC ar Fwrdd cyntaf Awdurdod S4C.

Dywedodd Huw Jones am yr academydd a pharchedig a fu farw’n 84 mlwydd oed:

“Roedd Alwyn Roberts yn un o gewri’r sefydliadau darlledu - yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Fel cynrychiolydd y BBC ar Fwrdd cyntaf Awdurdod S4C, roedd yn allweddol wrth sicrhau cydweithio adeiladol a chyfraniad egnïol gan y Gorfforaeth i lwyddiant y sianel yn ei dyddiau cynnar allweddol.

Fel un o Lywodraethwr y BBC’n ganolog, gwnaeth safiad oedd yn cael ei barchu’n eang gan ddarlledwyr wrth iddo wrthwynebu penderfyniad y corff hwnnw i ddiswyddo Alasdair Milne, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, o dan bwysau gwleidyddol.

Bu’n gyfaill beirniadol i S4C ar hyd y blynyddoedd, yn arbennig felly wrth gadeirio’r Panel Cydymffurfiaeth yn y 90au. Sicrhaodd drefniadau priodol a dealltwriaeth ddofn o’r pynciau dan sylw wrth alluogi’r sianel i gyfarfod â gofynion rheolaethol tra’n cadw ei hannibyniaeth a’i dewrder golygyddol.

Gwelwn ei golli yn fawr iawn.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?