S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddiad Cyw! Rhyddhau rhagor o docynnau i gyngerdd gerddorfa

01 Awst 2018

 Mae tocyn i weld sioe arbennig Cyw a’r Gerddorfa yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd bellach fel aur. Ond, mae newyddion da i ffrindiau’r aderyn bach, oherwydd heddiw mae 60 o docynnau ychwanegol ar werth!

Mae’r tocynnau ychwanegol ar gyfer perfformiad Cyw a’r Gerddorfa ar ddydd Mawrth 7 Awst, am 3.30 y prynhawn, yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae modd prynu’r tocynnau oddi ar wefan y Ganolfan - www.wmc.org.uk - neu drwy ffonio 0845 4090 800*

Tocynnau ychwanegol ar gyfer perfformiad hamddenol sy’n addas i blant sydd ag awtistiaeth, namau synhwyraidd a chyfathrebu ac anableddau dysgu, yn ogystal ag unigolion sy’n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall a rhannol ddall.

Cyntaf i’r felin fydd hi i hawlio’r tocynnau ychwanegol, ac mae disgwyl iddyn nhw werthu yn gyflym! Pan ryddhawyd y tocynnau yn y man cyntaf ym mis Mai, fe werthwyd pob sedd o fewn pythefnos ac fe gafodd sioe arall ei hychwanegu at yr amserlen, er mwyn ateb y galw.

Mae pum sioe Cyw a’r Gerddorfa, ar ddydd Llun a Mawrth 6 a 7 Awst, yn rhan o ddathliadau pen-blwydd gwasanaeth plant S4C yn 10 oed eleni. Mae’n addas i blant meithrin a theuluoedd ifanc ac ymhlith y cymeriadau hoffus sy’n cymryd rhan mae Tref a Tryst, Dona Direidi, Ben Dant, Radli Miggins, Deian a Loli, yn ogystal â’r cyflwynwyr Huw ac Elin. Yn ymuno â Chriw Cyw bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrth iddyn nhw berfformio trefniadau cerddorfaol lliwgar a hudol o ganeuon a hwiangerddi plant poblogaidd.

Mae Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, wedi gwirioni gyda’r ymateb!

Meddai Sioned Wyn Roberts; “Mae’r galw am docynnau Cyw a'r Gerddorfa wedi bod yn anhygoel! Gyda llai nag wythnos cyn y perfformiad cyntaf, ry’ ni’n falch iawn o allu rhyddhau rhagor o docynnau heddiw er mwyn ateb y galw mawr, a bod mwy fyth o ffrindiau Cyw yn gallu dod i ddathlu’r pen-blwydd yn y sioe unigryw yma. Mae’r 60 tocyn yn siŵr o hedfan - felly peidiwch ag oedi!”

Mae pris tocyn rhwng £5 a £8 am y cyngerdd sydd 45 munud o hyd, am 3.30 brynhawn Mawrth 7 Awst am 3.30. Maen nhw ar gael ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru drwy glicio yma neu drwy ffonio, 0845 4090 800*

*Bydd galwadau'n costio hyd at 5c y funud, ynghyd â chostau mynediad eich cwmni ffôn. Cysylltwch â'ch darparwyr gwasanaeth am wybodaeth cost galwadau os yn ddefnyddwyr ffonau symudol, neu os nad yn gwsmer BT.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?