S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodi Non Griffith i dîm comisiynu S4C

12 Hydref 2018

Mae S4C wedi penodi Non Griffith fel Comisiynydd Cynorthwyol y sianel.

Fel rhan o'i swydd newydd bydd Non sy'n wreiddiol o Chwilog ond sydd bellach yn byw yn Nghricieth yn gweithio'n agos gyda chomisiynwyr adloniant a ffeithiol S4C yn ogystal â gweithio ar gyd-gynyrchiadau a datblygu cysylltiadau rhyngwladol y sianel.

Mae gan Non flynyddoedd helaeth o brofiad o weithio ym maes darlledu. Bu'n gynhyrchydd hunan gyflogedig am gyfnod hir gan weithio ar raglenni megis Fferm Ffactor, Ar y Dibyn a Deuawdau Rhys Meirion i S4C a rhaglenni fel Family Farm ar gyfer BBC Wales.

Meddai Non: "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i gychwyn ar fy swydd newydd mewn cyfnod arloesol ym maes teledu. Mae'n sicr yn amser o newid a dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu cynnwys safonol ar amryw o blatfformau amrywiol. Bydd hi'n fraint cael gweithio i S4C."

Meddai Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C:

"Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Non i'r tîm. Bydd ei phrofiad ym maes darlledu a'i chysylltiadau ym maes teledu rhyngwladol yn gaffaeliad mawr i'r sianel. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio â hi."

Bydd Non yn cychwyn ar ei swydd yn y flwyddyn newydd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?