S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cael ei enwebu am wobr BAFTA plant

22 Hydref 2018

Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc, Prosiect Z, wedi derbyn enwebiad yng ngwobrau BAFTA Plant 2018.

Cynhelir seremoni BAFTA Plant, sydd yn gwobrwyo'r rheiny sy'n flaengar ym maes cyfryngau plant ym Mhrydain, yn Llundain nos Sul 25 Tachwedd.

Mae cyfres gêm Prosiect Z, sy'n gynhyrchiad gan Boom Cymru, wedi cael ei enwebu yn y categori Adloniant ac ynddi mae grwpiau o blant ysgol yn cwblhau tasgau er mwyn dianc o'u hysgolion heb ddenu sylw'r 'Zeds'; sef sombis sydd wedi eu heintio gan firws sy'n peryglu'r byd!

Bydd cyfres newydd sbon o Prosiect Z yn dechrau ar wasanaeth S4C i bobl ifanc, Stwnsh, brynhawn dydd Mawrth 30 Hydref, 5:30.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C: "Rydym ni werth ein bodd fod Prosiect Z wedi cael enwebiad am Bafta Plant eleni. Mae'r tîm cynhyrchu wedi creu fformat hollol wreiddiol a beiddgar sy'n torri tir newydd ac mae'r enwebiad yma'n cydnabod eu creadigrwydd a'u gwaith caled. Llongyfarchiadau mawr i'r criw, a bydd yr ail gyfres ar Stwnsh erbyn diwedd y mis."

Cafodd Prosiect Z hefyd ei henwebu ar gyfer gwobr Prix Jeunesse International yn gynharach eleni gan gael ei dewis ar y rhestr fer o blith dros 400 o gynigion gan ddarlledwyr ar draws y byd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?