S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Un Bore Mercher (Keeping Faith) wedi ei henwebu am wobr drama rhyngwladol

Mae cyfres lwyddiannus S4C Un Bore Mercher (Keeping Faith) wedi cael ei henwebu yng Ngwobrau Rhyngwladol Drama C21 2018 yng nghategori Drama Gorau Drama Mewn Iaith Heblaw Saesneg.

Wedi ei ffilmio yng ngorllewin Cymru, fe ddatblygwyd Un Bore Mercher yn wreiddiol gan S4C. Yn ystod yr haf, dangoswyd Keeping Faith ar deledu rhwydwaith ar draws y DG - y tro cyntaf i gynhyrchiad drama teledu ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru gael ei ddarlledu ar BBC One.

Llwyddodd Keeping Faith i ddenu cynulleidfaoedd rhagorol ac aeth y gyfres ymlaen i dorri record BBC iPlayer.

Mae'r ddrama'n adrodd hanes Faith Howells (Eve Myles) cyfreithwraig, gwraig a mam, a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr.

Cynhyrchwyd gan Vox Pictures ac mae'r gyfres eisoes wedi ennill tair gwobr Bafta Cymru gan gynnwys actores (Eve Myles), Cerddoriaeth Wreiddiol (Amy Wadge a Laurence Love Greed) ac Awdur (Matthew Hall). Mae ail cyfres nawr mewn cynhyrchiad.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C ei bod hi'n wrth ei bodd gyda'r newyddion. "Mae hyn yn newyddion da iawn i bawb oedd yn rhan o greu'r ddrama arbennig hon - rydym ni mor falch o'r hyn mae'r gyfres Un Bore Mercher (Keeping Faith) wedi ei chyflawni. Mae'n dangos y gall pethau gwych ddigwydd pan fydd darlledwyr yn ymuno ac mae'n dyst i'r talentau actio a chynhyrchu rhagorol sydd gan Gymru i'w gynnig."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod noson wobrwyo yn y St Pancras Renaissance Hotel yn Llundain ar ddydd Mercher, 28 Tachwedd fel rhan o Gyfarfod Drama Rhyngwladol C21.

Meddai Gwawr Lloyd, Comisiynydd Drama S4C: "Mae Gwobrau Rhyngwladol C21 yn anrhydeddus iawn - maen nhw gan ac ar gyfer y diwydiant darlledu yn benodol. Mae cael ein henwebu mewn categori mor uchelgeisiol gan feirniaid rhyngwladol pan fo'r gystadleuaeth ar ei mwyaf brwd yn gydnabyddiaeth enfawr."

"Mae Un Bore Mercher (Keeping Faith) yn gyfres sy'n mynd â Chymru, ein straeon a'n talent i gynulleidfa ryngwladol sydd i weld ag awch di-baid am gyfresi cyfoes Cymreig."

Meddai Adrian Bate o Vox Pictures: "Mae'n anrhydedd fawr i Vox Pictures dderbyn enwebiad am y wobr fawreddog hon yn enwedig o ystyried safon y rhai sydd wedi cael eu henwebu. Cafodd Un Bore Mercher ei chreu yn wreiddiol a'i datblygu fel cyfres Gymraeg ei hiaith, felly mae'n briodol iawn ein bod wedi cael ein henwebu yn y categori hwn ac mae'n glod i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyfres hynod lwyddiannus hon."

Mae Gwobrau Rhyngwladol Drama C21 yn cynnwys 11 o gategorïau ac yn cael eu beirniadu gan dros 100 o'r prif gomisiynwyr drama ym myd darlledu.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?