S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Eisiau colli pwysau a thrawsnewid eich hunain? Ceisiadau yn agored ar gyfer y gyfres newydd o FFIT Cymru

15 Ionawr 2019

Mae rhaglen deledu sy'n anelu i drawsnewid ffitrwydd a iechyd pum person yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gyfres nesaf.

Mae Cwmni Da, y cwmni teledu sy'n cynhyrchu FFIT Cymru ar gyfer S4C, yn annog pobl i roi eu henwau ymlaen i gymryd rhan yn y gyfres nesaf drwy fynd i'r wefan, s4c.cymru/ffitcymru, a chlicio ar y botwm 'Ymgeisio Yma'. Y dyddiad cau yw 25 Ionawr 2019.

Yn y gyfres, mae pum person sydd eisiau trawsnewid ei bywyd er gwell - colli pwysau a newid eu harferion bwyta ac iechyd yn cael eu dewis i fod yn un o Arweinwyr y gyfres.

Dros saith wythnos, mae'r Arweinwyr yn derbyn cynlluniau bwyd a ffitrwydd sydd wedi ei teilwra'n arbennig iddyn nhw, gan fanteisio ar gyngor ac arweiniad proffesiynol gan dri o arbenigwyr y gyfres; y dietegydd Sioned Quirke, yr hyfforddwr personol Rae Carpenter a'r seicolegydd, Dr Ioan Rees.

Y llynedd, llwyddodd pum arweinydd FFIT Cymrui golli cyfanswm o dros 13 stôn a dros 180 modfedd oddi ar fesuriadau eu dillad. Yn bwysicach na hynny, fe ddaru'r newid yn eu diet sbarduno gwellhad sylweddol yn iechyd pob un o'r Arweinwyr.

Dywedodd Leon Welsby, un o arweinwyr y gyfres gyntaf sy'n hanu o Benybont ar Ogwr: "Dw i'n edrych yn ôl gydag atgofion melys iawn. Mae'r rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i mi fyswn i byth wedi meddwl oedd yn bosib."

Cyn iddo ddechrau ar ei daith FFIT Cymru, roedd Leon yn ddiabetig, efo pwysau gwaed uchel a braster yn ei iau. Ar ôl cael prawf gwaed gan y doctor wedi i'rrhaglen orffen, cafodd Leon ganlyniadau syfrdanol.

Ychwanega Leon: "Dw i ddim yn diabetig rhagor, does dim un o indicators iechyd fi'n agos at fod yn uchel ragor. Nid jyst pwysau dw i 'di golli, ond mae e 'di cael effaith y tu mewn i mi. Allai ddweud yn blwmp ac yn blaen - fi'n meddwl 'naeth FFIT Cymru safio fy mywyd i, yn llythrennol.

"Jyst cerwch amdani. Os ydych chi wedi cyrraedd y pwynt ble mae digon yn ddigon, cerwch amdani a newidiwch eich bywyd."

Dywedodd Mathew Thomas, o Gaerwen, Ynys Môn: "Os geith rhywun y cyfle i wneud be wnes i, a mynd ar FFIT Cymru - peidiwch â meddwl amdano fo; go for it. Mae pawb yn colli eu ffordd mewn bywyd a naeth o jyst rhoi fi'n ôl ar y trac cywir i fyw. Dw i'n gwybod sut i wneud o rŵan - mae'r tools gennyf i."

Ychwanegodd Catherine Lewis o Gaernarfon: "Mae o wedi newid fy mywyd mewn gymaint o ffyrdd. Dw i wedi bod eisiau gwneud swydd fel nyrs neu ofal iechyd ers oeddwn i'n ysgol, ond oeddwn i'n meddwl na fedwrn i wneud o. Mae FFIT Cymru wedi dangos i fi - mi fedri di. So mi eshi amdani a mi geshi'r swydd."

Ers i'r gyfres gyntaf orffen, mae Nic, un o'r Arweinwyr sy'n byw ym Mhenygroes, Sir Gâr, wedi mynd ymlaen i allu redeg Hanner Marathon Caerdydd, yn ogystal â chyflawni taith feics 50 milltir, a helpu gyda'i glwb rhedeg leol.

Dywedodd Nic: "Chwe mis yn ôl, os byddai rhywun 'di dweud 'tha fi bod fi am redeg 5k, byddwn i di chwerthin arnyn nhw, ond nawr fi 'di cwpla 13.1 milltir. Mi oedd o'n teimlo'n amazing. Fi'n lot fwy ffit nawr, a fi'n gallu neud rhywbeth."

"Os chi'n meddwl colli pwysau, dod yn ffit neu eisiau bod yn hapus, mae hyn 'di gweithio i mi a 'di gweithio i fy nheulu. Jyst go for it."

Fe gafodd y daith FFIT Cymru effaith sylweddol ar iechyd Judith Owen, o Lanwnda, ger Caernarfon hefyd, i'r fath raddau nad oedd hi bellach angen llawdriniaeth oedd wedi ei drefnu c yn dechrau'r gyfres. Mi wnaeth hi hefyd lwyddo i golli stôn arall ar ôl gorffen dilyn y cynllun wyth wythnos.

Ychwanega Judith: "Mae o wedi agor lot o ddrysau i mi'n bersonol, mae o wedi annog fi i edrych ar ôl fy hun.

"Da ni i gyd yn cyrraedd rhyw bwynt lle 'da chi'n meddwl am esgusodion i beidio gwneud rhywbeth achos eich bod chi'n gyfforddus. Ond unwaith mae rhywun yn cael ei wthio i fynd allan o'r swigen fach gyfforddus yna, mae rhywun yn sylweddoli nad oedden nhw'n hapus go iawn. Eich penderfyniad chi ydi o.

"Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich hun, 'dwi angen y newid yma a dw i am ei wneud o'. I fi, unwaith mae pethau wedi symud ymlaen, dydi mynd yn ôl ddim yn opsiwn ddim mwy."

I ymgeisio i fod yn un o arweinwyr y gyfres nesaf o FFIT Cymru, ewch i'r wefan s4c.cymru/ffitcymru a chliciwch ar y botwm 'Ymgeisio Yma' erbyn Ionawr 25, 2019.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?