S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dai yn edrych mlaen at gyfres newydd o Cefn Gwlad

Yn dilyn llawdriniaeth cyn y Nadolig, mae Dai Jones yn ôl ar y sgrîn ac yn edrych mlaen at gyfres newydd sbon o Cefn Gwlad nos Fawrth 19 Chwefror ar S4C.

Wrth barhau i wella adref yn Llanilar bydd Dai yn cael y cyfle i edrych n'ôl ar rhai o'r cymeriadau cofiadwy mae e wedi cwrdd â nhw mewn dros 35 mlynedd o gyflwyno Cefn Gwlad ar S4C.

Ond bydd gweddill y tîm yn parhau i grwydro tu hwnt ac yma yn dod â'r straeon a'r cymeriadau diweddaraf i sylw gwylwyr S4C gan barhau i adlewyrchu rhyfeddodau cefn gwlad Cymru.

Meddai Dai:

"Ar ddechre cyfres newydd o Cefn Gwlad dwi eisiau diolch i bawb am eu caredigrwydd dros y misoedd diwetha'. Oni bai am y gwmnïaeth a'r caredigrwydd hynny bydde' 'na ddim sôn wedi bod amdanai – mae gwylwyr Cefn Gwlad yn gynulleidfa arbennig iawn. Mae pethe'n mynd i barhau fel arfer ar Cefn Gwlad -bydd y bobl ifanc yn dal yma a bydda i wrth fy modd ynghanol cyfeillion sydd wedi bod yn rhan o Cefn Gwlad ers blynyddoedd maith."

Yn rhan o dîm cyflwyno Cefn Gwlad mae Rhys Henllan, Mari Lovegreen, Meleri Williams a Ioan Doyle, heb anghofio Elis a Gadran sef tîm Cefn Gwlad bach.

Ers dros 35 mlynedd, mae'r rhaglen amaeth Cefn Gwlad wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C yn ogystal â bod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd y sianel.

Cefn Gwlad

Nos Fawrth 19 Chwefror, 8.00

Cynhyrchiad Slam Media i S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?