S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

10 enwebiad Celtaidd i S4C

Mae S4C wedi derbyn deg enwebiad ar gyfer Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2019.

Cynhelir yr ŵyl eleni yn Aviemore yn Yr Alban rhwng 4-6 Mehefin 2019. Mae'r ŵyl yn hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau gwledydd Celtaidd yn y cyfryngau.

Bydd cynhyrchwyr y ddrama boblogaidd Un Bore Mercher (Vox Pictures) yn brwydro am wobr yn y categori Cyfres Ddrama gyda chyfres drawsnewid FFIT Cymru (Cwmni Da) wedi ei enwebu yn y categori Adloniant.

Derbyniodd S4C ddwy enwebiad yn y categori rhaglen blant sef Mabinogi -ogi (Boom Cymru) a chyfres sombis lwyddiannus Prosiect Z (Boom Cymru) a hefyd enillodd wobr RTS fis diwethaf.

Enwebwyd dwy gyfres hefyd yn y categori Comedi hefyd sef Elis James – Cic Lan yr Archif (Cynyrchiadau Alpha) ac O'r Diwedd (Boom).

Llwyddodd Cwpan y Byd Bry (Boom Cymru) i gael enwebiad yn y categori Ffurf Fer a cipiodd rhaglen emosiynol Elin Fflur DRYCH: Chdi Fi ac IVF (Tinopolis) enwebiad yn y categori cyfres ffeithiol.

Llwyddwyd hefyd i gael dau enwebiad yn y categori chwaraeon ffeithiol gyda Ar Frig y Don (Cwmni Da) ac Ar Gefn y Ddraig (Cwmni Da).

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:

"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r ŵyl eleni. Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws yr amserlen. Pob lwc i bawb yn Aviemore fis Mehefin."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?