S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch dîm Pêl Rwyd Cymru yn herio rhai o oreuon y byd yn fyw ar S4C

26 Mehefin 2019

Fe fydd rhai o dimau Pêl Rwyd gorau'r byd yn heidio i Gaerdydd i herio tîm cenedlaethol Cymru fis nesaf a bydd modd gwylio dwy gêm yn fyw ar S4C.

Fel rhan o'r Gemau Prawf yr Haf 2019, mi fydd Cymru yn chwarae'n erbyn Malawi, y tîm sydd chweched ar restr detholion y byd, ar ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, yn y Viola Arena. Y diwrnod canlynol, ar ddydd Sul 7 Gorffennaf, mi fydd tîm Julie Hoornweg yn herio'r tîm sydd yn ddegfed ar restr y byd ar hyn o bryd ac un safle uwchben Cymru, Trinidad a Tobago.

Mae Malawi a Trinidad a Tobago yn teithio i Brydain ar gyfer Cwpan Pêl Rwyd y Byd, sy'n cael ei gynnal yn Lerpwl yn ystod mis Gorffennaf. Er i Gymru fethu sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth, dyma gyfle i gefnogwyr wylio'r cochion yn erbyn gwrthwynebwyr o safon yn y brifddinas.

Dyma fydd y tro cyntaf i S4C ddarlledu gemau Pêl Rwyd yn fyw.

Lauren Jenkins sydd yn arwain y tîm cyflwyno yng nghwmni Cerys Bowen, fydd yn dadansoddi'r chwarae. Gareth Roberts a Sarah Roberts sydd yn sylwebu ar y ddwy gêm, tra bod sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch.

Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: "Mae'r dilyniant Pêl Rwyd yn Nghymru yn fawr ac yn angerddol, ac yn ystod Gorffennaf, mi welwn ni rhai o dimau gorau'r byd yn dod i Gaerdydd.

"Mae tîm Cymru ar drothwy cyfnod cyffrous yn eu datblygiad, ac yn y ddwy gêm yma, mi fydd S4C yn rhoi llwyfan i rai o chwaraewyr mwyaf llewyrchus y wlad i ddangos eu doniau."

Bydd y ddwy gêm yn cychwyn am 5.00pm, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 4.45pm. Bydd y gemau i'w gweld yn fyw ar-lein ar s4c.cymru/clic, tudalen Facebook S4C Chwaraeon (gyda sylwebaeth Cymraeg) a thudalen Youtube S4C (gyda sylwebaeth Saesneg).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?