Clwb Rygbi yn dangos pob un o ranbarthau Cymru yn y PRO14
17 Gorffennaf 2019
Bydd S4C yn dangos pob un o ranbarthau rygbi Cymru yn fyw o fewn pum rownd agoriadol y tymor 2019/2020 Guinness PRO14.
Y gêm byw cyntaf fydd criw Clwb Rygbi yn ei ddarlledu'r tymor nesaf fydd y gêm rhwng Scarlets a Connacht, ar ddydd Sadwrn 28 Medi, sef gêm gyntaf Brad Mooar fel prif hyfforddwr y Sosban.
Ar ddydd Sadwrn 5 Hydref, bydd Clwb Rygbi yn y brifddinas i ddangos Gleision Caerdydd v Caeredin.
Wythnos yn ddiweddarach, ar ddydd Gwener 11 Hydref, bydd y tîm yn Rodney Parade ar gyfer Dreigiau v Connacht, cyn teithio i Belfast ar ddydd Gwener 25 Hydref ar gyfer ymweliad Gleision Caerdydd ag Ulster.
Stadiwm Liberty fydd y lleoliad ar gyfer rownd pump, wrth i'r Gweilch herio Connacht ar ddydd Sadwrn 2 Tachwedd.
Bydd S4C hefyd yn dangos darllediadau gohiriedig o ddwy gêm Guinness PRO14 ychwanegol yn ystod pum penwythnos agoriadol y tymor.
Gareth Rhys Owen fydd yn arwain tîm cyflwyno Clwb Rygbi, gyda Catrin Heledd yn sylwebu ar yr ystlys a Gareth Charles a chyn capten Cymru, Gwyn Jones, yn y blwch sylwebu.