S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwpan Rygbi’r Byd 2019 ar S4C – dilynwch antur tîm Cymru yn Siapan bob cam o’r ffordd

7 Awst 2019

- Pob un o gemau Cymru yn fyw ar S4C, yn ogystal ag uchafbwyntiau bob nos

- Amserlen yn llawn rhaglenni adloniant a ffeithiol i gyd-fynd â'r Bencampwriaeth

- Gwyliwch ar deledu, ar y we neu ar unrhyw ddyfais symudol ar S4C Clic

Ar ôl sicrhau'r Gamp Lawn yn gynt eleni, fe fydd tîm Cymru yn ceisio hawlio gwobr fwy fyth yn Siapan yn yr hydref - Cwpan Rygbi'r Byd 2019.

Mae tîm Warren Gatland yn cychwyn eu hymgyrch ar ddydd Llun 23 Medi gyda'u gêm agoriadol yn erbyn Georgia, ac fe fydd modd gwylio pob un o gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth yn fyw ar S4C ac S4C Clic, gyda rhaglenni uchafbwyntiau hefyd bob nos.

Cyn hynny, bydd gêm agoriadol y gystadleuaeth rhwng Siapan a Rwsia, yn cael ei dangos yn fyw ar ddydd Gwener 20 Medi, yn ogystal ag uchafbwyntiau.

Os yw Cymru yna ai peidio, mi fydd rownd derfynol y bencampwriaeth i'w gweld yn fyw ar S4C, ynghyd ag un o gemau rownd yr wyth olaf ac un yn y rownd gynderfynol.

Bydd tîm cyflwyno S4C yng nghanol yr holl gyffro yn Siapan wrth ddod a'r diweddaraf o'r garfan, cyfweliadau ecsgliwsif a dadansoddi craff. Gareth Rhys Owen fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda'r gohebydd Catrin Heledd.

Mi fydd cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, a chyn-faswr Cymru, Nicky Robinson yn dadansoddi'r cyfan, yn ogystal â sawl gwestai arbennig gan gynnwys cyn-mewnwr Cymru a'r Llewod, Mike Phillips.

Wyn Gruffydd a chyn-glo Cymru, Deiniol Jones, fydd yn y blwch sylwebu. Whisper Cymru a Lens360 sy'n cyd-gynhyrchu'r cyfan ar ran S4C.

Dywedodd Gareth Rhys Owen: "Gyda chyfnod llewyrchus Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru yn dod i ben yn Siapan, un peth yn unig sydd ganddo ar ôl i'w dîm gyflawni - i fod yn bencampwyr y byd. A does dim amheuaeth mai dyna fydd y nod i Gymru.

"Mi fydd tîm S4C yn aros yn agos i'r garfan er mwyn rhannu profiadau'r tîm gyda'r gwylwyr gartref a rhoi blas ar fywyd yn Siapan, ar y cae, ac oddi arno. Rydyn ni'n benderfynol o gynnig profiad gwylio heb ei ail i unrhyw un sy'n cefnogi Cymru."

Bydd darpariaeth S4C o Siapan yn parhau tu hwnt i'r chwiban olaf gyda'r gyfres, Sushi, Sake a Rygbi, fydd yn bwrw golwg hwyliog dros y bencampwriaeth a pherfformiadau Cymru.

Bydd S4C yn cychwyn yr amserlen estynedig o raglenni'n dathlu Cwpan Rygbi'r Byd ym mis Awst, gyda chyfres o ffilmiau byr o'r enw Chwedloni, fydd yn rhannu straeon rhyfeddol, o'r doniol i'r dirdynnol, o ledled Cymru yn ymwneud â'r gamp.

Gyda gwesteion enwog a'u straeon unigryw doniol, bydd y gyfres Jonathan yn dychwelyd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd i roi gwên ar y wyneb, beth bynnag y canlyniad.

Bydd cyfle i edrych yn ôl dros brif lwyddiannau Cymru yn y gystadleuaeth gyda'r cyfresi Clasuron Cwpan y Byd a Cwpan y Byd Cymru, sydd yn edrych yn ôl dros yr ymgyrchoedd cofiadwy a gemau anhygoel mae'r tîm wedi bod yn rhan ohonynt.

Bydd y rhaglen blant sydd wedi ennill BAFTA Cymru, CIC, hefyd yn dychwelyd i'r sgrin i ganolbwyntio ar rygbi yng nghwmni Heledd Anna a Billy McBryde.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at ddilyn tîm Cymru ar eu taith hanesyddol yn Siapan.

"Bydd ein rhaglenni amrywiol yn dangos a dadansoddi eu campau bob cam o'r ffordd a'n tîm darlledu penigamp yn ein tywys drwy'r cyfan. Bydd pobl adre yn cael y cyfle i rannu'r angerdd i gyd."

Dywedodd Martyn Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: "Mae darlledu drwy'r iaith Gymraeg ac Undeb Rygbi Cymru yn mynd law yn llaw.

"Yn sicr, fe fydd y tîm yn hapus i weld S4C yn eu dilyn pob cam o'r ffordd draw yn Siapan ac rydym yn llawn gwerthfawrogi'r ymrwymiad a chefnogaeth rydym yn parhau i dderbyn gan ein partner darlledu ffyddlon."

Yn ogystal â'r holl raglenni, bydd sawl eitem arbennig i'w mwynhau ar gyfrifon @S4Cchwaraeon, ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?