S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lawnsio Lŵp – mwy o gerddoriaeth ar y sianel

Mae S4C yr wythnos hon yn lawnsio cynnwys traws blatfform newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg - Lŵp.

Perfformiadau cerddorol fydd calon cynnwys Lŵp ond bydd y ffocws hefyd yn troi at elfennau o ddiwylliant cyfoes.

Bydd y rhaglenni yn deithiau gweledol mewn i agweddau gwahanol o sîn gerddoriaeth newydd Cymru boed hynny'n ŵyl, thema benodol neu yn ffocws ar artist. Yn ogystal â cherddoriaeth bydd hefyd cyfle i drafod gwaith celf, ffotograffiaeth, ffilm a geiriau.

Bydd cynnwys Lŵp yn cael ei gyhoeddi ar lein, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar deledu mewn cyfres o raglenni arbennig gyda un rhaglen arall o uchafbwyntiau.

Bydd y cyfan yn cychwyn nos Iau 22 Awst gyda rhaglen Lŵp: Gigs 'Steddfod gan roi blas o ddigwyddiadau cerddorol yr Eisteddfod i'r gwylwyr yn ogystal â'r llu o ddigwyddiadau celfyddydol eraill oedd i'w gweld yn Llanrwst ddechrau fis Awst.

"Adlewyrchu y sîn gerddoriaeth Gymraeg yw'r bwriad," meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.

"Mae cymaint yn digwydd o fewn y sîn ar hyn o bryd nid yn unig ym maes cerddoriaeth ond pob math o ddiwylliant celfyddydol. Mae na ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru ac mae na artistiaid talentog yn cyfrannu yn helaeth i'r ddarpariaeth. Mae S4C yn falch o allu rhoi llwyfan i hyn a chyfle i'r gwylwyr fwynhau'r bwrlwm sy'n digwydd ar draws Cymru."

Bydd Lŵp yn cymryd lle brand Ochr 1 gan gymryd pwyslais gwahanol iawn o ran arddull a darpariaeth a chynyddu faint o gerddoriaeth newydd fydd i'w weld ar S4C ar deledu ac ar lein.

"Roedden ni'n gweld bwlch yn narpariaeth cerddoriaeth y sianel," meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar lein S4C. "Ac er bod cerddoriaeth wedi cael lle amlwg ar Hansh dros y blynyddoedd diwethaf, roedden ni'n gweld bod angen rhaglenni teledu mwy cyson i gyfleu'r hyn sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn yn ogystal a chryfhau y cynnwys arlein."

Lŵp: Gigs 'Steddfod

Nos Iau 22 Awst, 9.30, S4C

Ar gael ar alw ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?